Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 27ain Chwefror, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole, H.A.L. Evans, L.D. Evans a J. Tremlett. 

 

Bu i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol gydymdeimlo â'r Cynghorydd H.A.L. Evans a'i theulu ar farwolaeth ei mam.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

COFNODION - 6 CHWEFROR 2017 pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2017 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.  Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd D.M. Cundy wedi gofyn am ganiatâd i ofyn cwestiwn mewn perthynas ag eitem rhif 8 ar yr agenda, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

DRAFFT CYNGOR SIR GAERFYRDDIN - AMCANION LLESIANT 2017/18 pdf eicon PDF 277 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion am Amcanion Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin 2017/18. 

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl gyrff cyhoeddus:-

 

·       Pennu a chyhoeddi Amcanion Llesiant

·       Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny

·       Cyhoeddi datganiad am Amcanion Llesiant

·       Cyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch y cynnydd

·       Cyhoeddi ein hymateb i argymhelliad a wneir gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

Yn ogystal, mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor bennu Prif Flaenoriaethau Amcanion Gwella bob blwyddyn ac ar gyfer 2017/2018 cynigiwyd integreiddio Prif Flaenoriaethau Amcanion Gwella ac Amcanion Llesiant yr Awdurdod.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau fod yr amcanion wedi cael eu datblygu yn dilyn ymgynghori â phreswylwyr. Roedd yr amcanion drafft hefyd wedi cael eu hystyried yn ystod cyfarfod craffu ar y cyd ac roedd sylwadau Aelodau wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Mynegwyd pryder gan Aelodau'r Bwrdd fod dyblygu yn sgil datblygu targedau llesiant drwy wahanol ddeddfwriaeth a phrosiectau. Nodwyd bod yn rhaid rhoi ystyriaeth i'r amser a'r ymdrech sydd eu hangen i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod yr adroddiad drafft yn cael ei gymeradwyo.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - CYNLLUN HENEIDDIO'N DDA SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol Sir Gaerfyrddin ar gyfer Cynllun Heneiddio'n Dda 2015/2016. Roedd yr adroddiad (sy'n ofynnol gan y Comisiynydd Pobl H?n) yn rhoi manylion am berfformiad yr Awdurdod o ran y blaenoriaethau canlynol:

·         Cymunedau sy’n ystyriol o bobl h?n;

·         Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia;

·         Atal Codymau;

·         Cyfleoedd Cyflogaeth a Sgiliau Newydd;

·         Unigrwydd a theimlo'n ynysig.

 

Mynegodd Aelodau'r Bwrdd bryderon fod rhai pobl oedrannus yn aros yn yr ysbyty yn hwy nag sydd ei angen a bod yn rhaid rhoi ystyriaeth i gyfuno cyllidebau ag iechyd, lle bo'n briodol, i roi sylw i faterion o'r fath. Nododd yr Aelodau fod angen rhoi mwy o bwyslais ar sut i gyflawni'r fath gynlluniau a blaenoriaethau a dysgu drwy arferion da mewn ardaloedd eraill. Awgrymwyd y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wneud rhagor o ymchwil i arferion da.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer Cynllun Heneiddio'n Dda 2015/2016.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16 - GWEITHREDU O RAN Y GYMRAEG pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2015/16 ar yr Iaith Gymraeg sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys y dangosyddion statudol a lleol sy'n mesur cydymffurfiaeth â'r Cynllun. Dywedwyd y byddai'r safonau yn disodli'r system bresennol o ran cynlluniau iaith Gymraeg. Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rheoliadau Safonau'r Gymraeg ar 30 Medi, 2015, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio â'r rhan fwyaf o'r safonau erbyn 30 Mawrth, 2016.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol fod Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi bod y Cyngor yn perfformio'n dda.

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1 gofynnodd y Cynghorydd D.M. Cundy faint o leoedd Cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ond sydd heb eu llenwi yn nalgylchoedd addysgol Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli ar hyn o bryd, mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, a sut y bydd angen inni ehangu'r ddarpariaeth i gyrraedd ein targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wybodaeth am nifer y lleoedd Cyfrwng Cymraeg sydd ar gael a nifer y lleoedd gwag yn ardal Llanelli ar hyn o bryd. Nodwyd bod newidiadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Llanelli yn sgil uno Ysgol Copperworks ac Ysgol Maesllyn. Mewn perthynas â chyrraedd y targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, eglurwyd bod y Cyngor yn aros am adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghori ynghylch ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

MODEL BLAENORIAETHU AR GYFER GWELLIANNAU DIOGELWCH FFYRDD AC ISADEILEDD PRIFFYRDD pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad oedd yn amlinellu meini prawf diwygiedig ar gyfer asesu a blaenoriaethu ceisiadau am welliannau diogelwch ffyrdd ac isadeiledd priffyrdd. Ar 14 Tachwedd, 2011 roedd y Bwrdd wedi cymeradwyo'r meini prawf presennol ar gyfer asesu, dewis a blaenoriaethu Gwelliannau Diogelwch Ffyrdd a Gwelliannau Troedffyrdd a ariannwyd o gyllideb cyfalaf y Cyngor. Roedd yr adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith fod y galw yn uchel ac ar hyn o bryd roedd 355 o geisiadau ar wahân am welliannau isadeiledd priffyrdd a diogelwch ffyrdd. Roedd y meini prawf diwygiedig yn cael eu cynnig i ystyried yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd a sicrhau bod prosiectau a chynlluniau sy'n gwella diogelwch ffyrdd mewn cymunedau yn cael eu blaenoriaethu. Yn ogystal, er mwyn hwyluso cyflawni mân welliannau mae'r adroddiad yn cynnig brigdorri'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer mân waith 10%.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r meini prawf ar gyfer asesu a blaenoriaethu ceisiadau am welliannau diogelwch ffyrdd ac isadeiledd priffyrdd.

10.

Y TREFNIADAU PARTNERIAETH SYDD WEDI'I SEFYDLU YNG NGORLLEWIN CYMRU O DAN RAN 9 O DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014 AC ASESIAD POBLOGAETH GORLLEWIN CYMRU. pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth am ofynion statudol trefniadau partneriaeth o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Roedd y rhain yn cynnwys creu Byrddau Partneriaeth Ranbarthol ar ôl troed Byrddau Iechyd Lleol. Roedd yn rhaid i'r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol flaenoriaethu integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a hyrwyddo sefydlu cronfeydd ar y cyd lle bo'n briodol i gefnogi integreiddio. O dan Ran 2 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) roedd yn ofynnol i bartneriaid statudol gyhoeddi Asesiad Poblogaeth sy'n nodi'r anghenion am ofal a chymorth yn y rhanbarth, y gofal a chymorth a ddarperir ar hyn o bryd a'r meysydd y mae angen eu gwella a'u datblygu. Mae'n rhaid cynnal Asesiad Poblogaeth yn ystod pob cylch etholiadol ac roedd yn rhaid cyhoeddi'r asesiad cyntaf erbyn 31 Mawrth 2017. Yn hyn o beth, roedd y partneriaid statudol a phartneriaid eraill yn rhanbarth Gorllewin Cymru wedi cydweithio i gynhyrchu Asesiad Poblogaeth cyntaf y rhanbarth, yr oedd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi cytuno arno ar 15 Rhagfyr 2016. Roedd y Côd Ymarfer statudol yn ei gwneud yn ofynnol i bob un o'r partneriaid statudol gymeradwyo'r Asesiad cyn ei gyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

10.1          nodi'r gofynion statudol sydd ar waith yng Ngorllewin Cymru o dan Ran 9 O Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r trefniadau partneriaeth i fodloni'r gofynion hyn;

 

10.2          cymeradwyo cynnwys Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru.

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

13.

CWMNI TAI LLEOL SIR GAERFYRDDIN - YR ACHOS BUSNES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 12 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion am ganfyddiadau achos busnes y Cwmni Tai Lleol ac yn amlinellu'r camau nesaf ar gyfer sefydlu'r cwmni y bernir mai hwn oedd y dewis gorau i ychwanegu'n sylweddol at ddarparu tai fforddiadwy i'w gwerthu a'u gosod.Roedd Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy 2016-21, a gytunwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2016, yn ymrwymo i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1 Cadarnhau bod yr achos busnes ar gyfer sefydlu'r Cwmni Tai Lleol yn opsiwn ymarferol ac y byddai'n ychwanegu'n sylweddol at gyflawni Ymrwymiad Tai Fforddiadwy y Cyngor o ran darparu rhagor o dai i'w gwerthu a'u gosod;

 

13.2 rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion sefydlu'r cwmni tai lleol, ei strwythurau llywodraethu a chynllun busnes manwl pum mlynedd o hyd;

 

13.3 awdurdodi swyddogion i gomisiynu cymorth allanol arbenigol wrth sefydlu'r cwmni tai lleol ac wrth ddatblygu'r strwythurau llywodraethu a'r cynllun busnes manwl, a hynny mewn perthynas â materion cyfreithiol, ariannol a thechnegol.

14.

DATBLYGU ORIEL MYRDDIN - HEOL Y BRENIN, CAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 12 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y cynigion ar gyfer datblygu Oriel Myrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad er mwyn cefnogi datblygu Oriel Myrddin.