Agenda a Chofnodion

Draft Budget, Cabinet - Dydd Llun, 17eg Ionawr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.  Roedd y Cynghorydd P.M Hughes yn bresennol o 10.45a.m.

 

Estynnodd yr Arweinydd ac aelodau eraill o'r Cabinet eu cydymdeimlad i deulu'r diweddar Gynghorydd Mair Stephens a thalwyd teyrnged i'w chyfraniad i'r Cyngor fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Annibynnol.

 

Safodd yr holl Aelodau mewn tawelwch yn arwydd o deyrnged er cof am y Cynghorydd Stephens.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ann Davies

9 - Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd

Mae Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn mynd drwy dir ei fferm.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 20 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar yr 20fed Rhagfyr, 2021 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CYNLLUN CYFLAWNI ECONOMAIDD RHANBARTHOL DE-ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 413 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynigion i Gynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd De-orllewin Cymru gymryd lle Strategaeth Adfywio Economaidd bresennol Dinas-ranbarth Bae Abertawe. 

 

Er bod y Strategaeth bresennol wedi bod ar waith ers 2013, nodwyd bod y cyd-destun economaidd a pholisi wedi newid yn sylweddol ers hynny, yng Nghymru a'r DU, yn enwedig yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, effaith pandemig Covid-19 a newidiadau rhanbarthol o ran cyflwyno'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol newydd a’r Fframweithiau Rhanbarthol newydd sy’n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cymru yn nodi gweledigaethau a blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i'r amgylchiadau newidiol hynny, roedd y pedwar Awdurdod Lleol yn ne-orllewin Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi comisiynu'r gwaith o ddatblygu Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol Newydd, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad, a oedd yn cynnwys:-

 

·         Dadansoddi'r sylfaen dystiolaeth yn drylwyr o ran economi, marchnad lafur a seilwaith y rhanbarth i bennu ei gryfderau, ei wendidau, ei gyfleoedd a'i fygythiadau;

·         Dehongli'r cyd-destun polisi strategol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol;

·         Datblygu nodau ac amcanion strategol manwl a oedd yn ymateb i gyfleoedd economaidd y rhanbarth ac a oedd yn ategu'r weledigaeth ranbarthol a rennir fel y'i nodir yn y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol;

·         Paratoi Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a oedd yn cynnwys camau yr oedd angen eu cymryd i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn cael ei fabwysiadu fel polisi adfywio economaidd cyffredinol y Cyngor.

 

7.

CYNLLUNIAU ADFER ECONOMAIDD CANOL Y PRIF DREFI - RHYDAMAN, CAERFYRDDIN A LLANELLI pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cabinet yn ystyried adroddiad ar y Cynlluniau Adfer a Chyflawni Economaidd arfaethedig, ar ôl Covid, ar gyfer y tair prif dref yn Sir Gaerfyrddin, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Lluniwyd y cynlluniau gan weithio'n agos gyda Thasglu Rhydaman, Fforwm Canol Tref Caerfyrddin a Thasglu Llanelli, ac roedd pob un ohonynt yn cynnwys aelodaeth o randdeiliaid allweddol y dref ynghyd â chynrychiolwyr o adrannau mewnol allweddol y Cyngor.

 

Mae'r cynlluniau'n nodi effaith Covid, gan dynnu sylw at faterion/cyfleoedd allweddol a darparu fframwaith cyflawni o ymyriadau pwrpasol ar gyfer pob canol tref. Pe baent yn cael eu mabwysiadu, rhagwelid y byddai'r cynlluniau yn eiddo i'r rhanddeiliaid yn Nhasglu/Fforwm priodol y tair tref ac yn cael eu cyflawni ganddynt, gyda'r Cyngor yn gweithio gyda darpar gyllidwyr yn Llywodraeth Cymru ac yn San Steffan i ysgogi cyllid pan fyddai cyfleoedd yn codi, a defnyddio cyllid corfforaethol a nodwyd o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor i hwyluso gweithrediad y tri chynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid nodi a chymeradwyo'r Cynlluniau Adfer a Chyflawni Economaidd ar gyfer Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

 

8.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2022/23 i 2024/25 pdf eicon PDF 540 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y Strategaeth Cyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am broses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Byddai'r adroddiad hefyd yn sail i'r broses ymgynghori ar y gyllideb i'w chynnal yn ystod Ionawr a Chwefror 2022.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 9.2% (£26.335 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Felly, roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £311.957 miliwn yn 2022/23 a oedd yn cynnwys £302k mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai dim ond datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y misoedd i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach, ymgysylltu ag aelodau'r cyngor a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a disgwyliwyd derbyn y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2022.

 

Er bod Strategaeth y Gyllideb yn cynnig cynnydd o 4.4% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, byddai'r cynnig hwnnw'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis nesaf a lle cafodd yr Awdurdod eglurhad pellach ynghylch costau a chyllid grant gyda'r bwriad o gyfyngu ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn belled ag y bo modd. Byddai cynigion terfynol y gyllideb wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ddiwedd mis Chwefror, i sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1

Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo Strategaeth y Gyllideb dair blynedd fel sylfaen i ymgynghori gan geisio sylwadau gan ymgyngoreion yn benodol ynghylch y cynigion effeithlonrwydd yn Atodiad A;

8.2

Nodi’r swm heb ei ddyrannu o £757k yn y strategaeth gyfredol, a fyddai'n cael ei ystyried ymhellach ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel y nodir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad;

8.3

Cymeradwyo'r cynnig i ddyrannu £500k o'r tanwariant a ragwelir ar gyfer y flwyddyn gyfredol i gyflymu Cynlluniau Datgarboneiddio cyfredol yn y flwyddyn i ddod.

 

 

9.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2022/23 - 2026/27 pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 i 2026/2027, a fyddai'n sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill. Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau o ran ffigurau'r setliad a cheisiadau am grantiau, yn cyfrannu i'r adroddiad terfynol ynghylch cyllideb y Rhaglen Gyfalaf a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Chwefror 2022 a'r Cyngor Sir ym mis Mawrth 2022.

 

Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022/23 oedd £144.844m, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £52.249m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, a'r grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £92.595m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd y ffigurau hynny'n cynnwys prosiectau a ohiriwyd yn 2021/22, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a oedd wedi'u cario drosodd a'u cynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd i ddod.

Rhagwelwyd y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei hariannu'n llawn yn ystod y pum mlynedd. Roedd yn cynnwys gwariant rhagamcanol ar brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe y byddai'r Awdurdod yn benthyca yn eu herbyn, a byddai'r cyllid yn cael ei ddychwelyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros gyfnod o 15 mlynedd (o 2018/19).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad yn rhaglen gyfalaf dros dro at ddibenion ymgynghori, a bod y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ystyried y mater yn ei gyfarfod a gynhelir ar 2 Chwefror, 2022.

 

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 554 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2021, o ran 2021/2022.  Er bod maint ymateb Covid-19 yn lleihau, roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ariannol parhaus a wynebir gan yr Awdurdod yn ogystal â'r cymorth ariannol ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £1,726k gyda thanwariant o £1,279k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.  Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·     costau ychwanegol oedd yn gysylltiedig â Covid-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru; 

·     effeithiwyd ar rai gwasanaethau oherwydd iddynt gael eu hatal neu oherwydd y cyfyngiadau symud a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn chwarter 1;

·     defnyddio rhywfaint o danwariant yr arian cyfalaf, oherwydd rhai pwysau sylweddol ar gyllidebau prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, a gymeradwywyd fel rhan o adroddiad ar wahân.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod cyfanswm o tua £13 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'u hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn (Ebrill – Medi).

 

Tynnwyd sylw'r Cabinet at y ffaith y byddai'r risg i gyfraddau casglu'r Dreth Gyngor a mwy o geisiadau o dan y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn parhau i gael ei monitro'n agos, yn enwedig gan fod y cynllun ffyrlo bellach wedi dod i ben.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,337k ar gyfer 2021/22. Darparwyd manylion am hyn yn Atodiad B a oedd ynghlwm i'r adroddiad.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

10.1    Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd.

10.2    Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod effaith barhaus mesurau Covid-19 ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

 

11.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2021/22 pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021/22, fel yr oedd ar 31 Hydref 2021 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £74,790k o gymharu â chyllideb net weithredol o £105,168k gan roi -£30,378k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, 2021 a llithriad o 2021/21 a newidiadau a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 25 Hydref, 2021. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo.

 

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1    bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;

11.2. bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.

 

 

12.

ADRODDIAD CYNNYDD INTERIM Y STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL pdf eicon PDF 406 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Cynnydd Interim y Strategaeth Toiledau Lleol a luniwyd yn unol â gofynion Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a oedd yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer ei ardal a chyhoeddi adroddiad cynnydd interim cyn pen chwe mis ar ôl i'r cyfnod o 2 flynedd ers cyhoeddi'r Strategaeth Toiledau Lleol wreiddiol ddod i ben. Yn achos Sir Gaerfyrddin, gan fod y strategaeth wreiddiol wedi'i llunio ym mis Awst 2019, roedd angen cyhoeddi adroddiad interim erbyn mis Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Cynnydd Interim Drafft y Strategaeth Toiledau Lleol.

 

13.

NEWID POSIBL I BOLISI ADNEWYDDU'R SECTOR PREIFAT pdf eicon PDF 503 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a luniwyd yn unol â chais Llywodraeth Cymru am i Awdurdodau Lleol ddefnyddio eu pwerau o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio 2002 ynghylch newid Polisi Adnewyddu Tai y Sector Preifat y Cyngor i gynnwys Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer addasiadau bach a chanolig heb i ymgeiswyr orfod cael prawf modd.

 

Amlinellodd yr adroddiad 4 opsiwn posibl i'w hystyried i ymateb i gais Llywodraeth Cymru ac argymhellodd fabwysiadu opsiwn 4. Pe bai’n cael ei fabwysiadu, y bwriad oedd cynnal adolygiad o effaith y newid arfaethedig ar ôl y 6 mis cyntaf a darparu adroddiad pellach os oes unrhyw bryderon wedi'u nodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL newid Polisi Adnewyddu Tai y Sector Preifat y Cyngor i gynnwys Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a bod opsiwn 4 yn cael ei fabwysiadu, gan gynnig y dewisiadau canlynol i ymgeiswyr:

·         bwrw ymlaen ag opsiwn 2, heb unrhyw brawf modd ac amodau ad-dalu o 10 mlynedd ynghlwm wrth Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn ôl disgresiwn, neu,

·         gwneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol a chael prawf modd

 

 

 

 

14.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR AR Y 10FED O DACHWEDD 2021 - CLYMOG JAPAN pdf eicon PDF 501 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar Rybudd o Gynnig (fel y'i diwygiwyd gan y Cyngor) ynghylch clymog Japan a gyfeiriwyd at y Cabinet gan y Cyngor ar 10 Tachwedd, 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y pwerau sydd ar gael i Awdurdodau Lleol fynd i'r afael â chwyn goresgynnol, megis clymog Japan h.y. Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned) a'r prif bryderon o ran eu defnyddio, ynghyd â darpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a oedd wedi'i gwneud yn drosedd i unrhyw un achosi i rywogaethau dyfu yn y gwyllt ac y gallai'r Heddlu eu gorfodi.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ymhellach ar ddulliau eraill o orfodi drwy Hysbysiad Gwarchod y Gymuned ac, o ystyried effaith camau gorfodi ar ddeiliaid tai, o ran cost a chosb droseddol bosibl, cyflwynwyd yr opsiynau canlynol i'r Cabinet eu hystyried:-

 

·         Parhau â'r arfer presennol o gynghori tirfeddianwyr yr effeithir arnynt a'u cyfeirio at ffynonellau canllawiau, sef y dull a fabwysiadwyd gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol ac;

·         Ystyried y sefyllfa fel cyfle masnachol i gynnig gwasanaethau trin clymog Japan i'r cyhoedd, naill ai'n uniongyrchol ar sail adennill costau neu'n fwy masnachol drwy gwmni masnachu posibl. Fodd bynnag, byddai angen arbenigedd yn y maes hwnnw i'w ddatblygu a'i weithredu.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y problemau yn y sir yn ymwneud â Jac y Neidiwr a theimlwyd y dylai unrhyw ganllawiau a chamau gorfodi hefyd gynnwys cyfeiriad at Jac y Neidiwr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor yn parhau â'r arfer presennol o gynghori tirfeddianwyr yr effeithir arnynt a'u cyfeirio at ffynonellau canllawiau.

 

15.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR - 15FED O FEDI 2021 AWYRU MEWN YSGOLION pdf eicon PDF 554 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar Rybudd o Gynnig ynghylch Awyru mewn Ysgolion a gyfeiriwyd at y Cabinet gan y Cyngor ar 15 Medi, 2021.

 

Atgynhyrchodd yr adroddiad y Rhybudd o Gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys gymeradwyo, tendro ac ariannu Hidlenni Aer Gronynnol Effeithlon iawn a/neu Uwchfioled mewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

16.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.