Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd L.M. Stephens wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2021 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 551 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2021, o ran 2021/2022.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £869k gyda thanwariant o £399k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Adroddwyd, ar lefel uchel, fod hyn o ganlyniad i gyfuniad o gostau ychwanegol yn gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru, roedd rhai gwasanaethau naill ai wedi cael eu hoedi neu effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau symud a rheolau cadw pellter cymdeithasol yn ystod chwarter 1 ynghyd â'r bwriad i ddefnyddio rhywfaint o danwariant yr arian cyfalaf oherwydd pwysau sylweddol penodol ar gyllidebau prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o adroddiadau ar wahân.
Nododd Aelodau'r Cabinet, o ran cyllidebau Ebrill-Mehefin, fod cyfanswm o tua £6 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'i hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,159k ar gyfer 2021/22. Darparwyd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 10.1 bod adroddiad Monitro'r Gyllideb yn cael ei dderbyn, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol. 10.2 bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod |
|||||||||||||||
ADFER MYNEDIAD CYHOEDDUS YN GILFACH IAGO PDF 482 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i'r Cyngor gymryd cyfrifoldeb oddi ar Celtic Energy ac ymgymryd â'r holl waith adfer mynediad cyhoeddus ar draws hen safle glo brig Gilfach Iago.
Nododd y Cabinet, er mwyn i'r cynnig gael ei ddatblygu, y byddai angen i'r Awdurdod wneud cais i Lys yr Ynadon am ailddosbarthu tair ffordd ddiddosbarth ar draws y safle blaenorol (nad oedd modd eu defnyddio ar hyn o bryd) i statws llwybr ceffylau, yna gellid eu dargyfeirio yn ôl yr angen 'yn fewnol' gan y tîm Mynediad i Gefn Gwlad er mwyn cyd-fynd yn well â chynllun y tir sydd wedi'i adfer a chysylltu â'r llwybrau troed presennol. Byddai hefyd yn ofynnol i'r awdurdod dderbyn y setliad ariannol a gynigir gan Celtic Energy, sef £320k, a hynny heb ragfarn, i ariannu'r gwaith o adfer mynediad cyhoeddus ar draws y safle. Pe bai'n cael ei dderbyn, ac er y byddai'r setliad a gynigir yn talu cyfran sylweddol o'r costau a ragwelir, byddai angen cyllid ychwanegol o £130k i gyflawni'r prosiect yn llawn, gan gynnwys ceisiadau am grant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||||||
SEFYDLU PARTNERIAETH ADDYSG RANBARTHOL NEWYDD PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd Mr J. Morgan - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo’r eitem yn cael ei hystyried)
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad, ynghyd â chytundeb cyfreithiol drafft, ar y bwriad i sefydlu partneriaeth ranbarthol newydd i ddarparu model newydd o ddarpariaeth addysg ar sail ôl troed De-orllewin Cymru rhwng awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe a hynny o dan yr enw 'Partneriaeth’.
Nodwyd, pe bai'n cael ei gymeradwyo, er y byddai'r bartneriaeth yn disodli'r hen bartneriaeth addysgol a ddarparwyd gan ERW, y byddai Cyd-bwyllgor ERW yn parhau mewn grym er mwyn dirwyn y gwaith i ben a sefydlu'r holl rwymedigaethau sy'n weddill. Bryd hynny, byddai'r holl bartneriaid sy'n weddill yn ERW yn tynnu'n ôl yn dilyn un wythnos o rybudd a byddai ERW yn cael ei ddiddymu, a byddai cytundeb cyfreithiol Cyd-bwyllgor ERW yn cael ei amrywio er mwyn darparu ar gyfer y trefniadau i'w ddirwyn i ben. Fel rhan o'r weithred amrywio honno, cytunwyd y dylid rhannu holl rwymedigaethau ERW sy'n weddill ymhlith y partneriaid presennol a'u cyfrifo ar sail pro rata, gan ystyried a didynnu yn y lle cyntaf unrhyw rwymedigaethau gan gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion yn unol â chymalau 15.2 a 15.4 o gytundeb ERW.
Mynegwyd gwerthfawrogiad i'r holl staff a oedd yn ymwneud â sefydlu Partneriaeth a sefydlu'r cytundeb cyfreithiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||||
NODI BOD GR?P Y BLAID LAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB JAMES YN LLE'R CYNGHORYDD BILL THOMAS AR Y PANEL RHIANTA CORFFORAETHOL A DIOGELU A'R PANEL GWELLA YSGOLION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi enwebiad y Gr?p Llafur bod y Cynghorydd Rob James yn cymryd lle'r Cynghorydd Bill Thomas ar y Panel Rhianta Corfforaethol a Diogelu a'r Panel Gwella Ysgolion. |
|||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |