Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir.
|
|||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||
POLISI TRIN DATA PERSONOL PDF 322 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y 'Polisi Trin Data Personol' newydd a fyddai'n disodli'r 'Polisi Trin Gwybodaeth Bersonol' a'r 'Polisi Rhoi Gwybod am Achosion o Dorri Rheoli ac Ymateb Iddynt’', ac roedd y ddau bolisi wedi mynd y tu hwnt i'w dyddiadau adolygu ac roedd angen eu diweddaru. Nododd Aelodau'r Cabinet fod y polisi newydd yn adlewyrchu'r newidiadau mewn arferion gwaith, y defnydd o TG newydd a phenderfyniadau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Trin Data Personol'.
|
|||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-21 PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-21, a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021-24, a oedd yn manylu ar sut yr oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ac wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Penodol Cymru.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig a'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-24, a oedd fel a ganlyn:-
1. Bod yn gyflogwr arweiniol 2. Mae anghenion a hawliau pobl â Nodweddion Gwarchodedig yn llywio dyluniad gwasanaethau 3. Cymunedau diogel a chydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal 4. Gwella mynediad i'n gwasanaethau a'n hamgylchedd.
Gan edrych yn ôl ar effaith y pandemig ar gymunedau a dinasyddion Sir Gaerfyrddin, dywedwyd y byddai sylw dyledus yn cael ei roi i'r cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswyddau'r Sector Cyhoeddus ac y byddai’r grwpiau gwarchodedig yn cael eu cynnwys yn y broses o ailadeiladu ac adfer gwasanaethau. At hynny, tynnwyd sylw at y ffaith mai 2020-21 oedd blwyddyn gyntaf y Cyngor o weithredu ei Galendr Hybu Amrywiaeth a Chydraddoldeb a'r Faner a'r protocol goleuo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2020-21 PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol o ran yr iaith Gymraeg a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2020-21. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.
Nododd Aelodau'r Cabinet, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd er gwaethaf y rhwystrau ymarferol a achoswyd yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd astudiaethau achos a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ddulliau dysgu ar-lein arloesol newydd a oedd wedi'u rhoi ar waith yn llwyddiannus yn dilyn y cyfleoedd newydd a ddaeth i law o ganlyniad i'r pandemig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2020-21.
|
|||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR - 2020/2021 PDF 262 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw'r Cyngor a oedd yn rhoi sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn i aelodau mewn perthynas â 2020/21.
Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19 yn ogystal â'r gefnogaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y ffigurau alldro terfynol yn dangos tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £1,434k. Ar ôl ystyried y tanwariant ar daliadau cyfalaf a'r symudiad mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chronfeydd wrth gefn Adrannol, roedd y sefyllfa net ar gyfer yr Awdurdod yn golygu tanwariant o £814k.
Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion ar y gwariant a'r incwm mewn perthynas â Covid-19.
Nododd Aelodau'r Cabinet fod y tanwariant yn deillio o gyfuniad o'r cyllid grant ychwanegol sylweddol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn, a oedd hefyd yn cynnwys cyllid o tua £5m ar gyfer ysgolion. Y costau ychwanegol yn gysylltiedig â COVID19 a'r incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru. Roedd gwasanaethau wedi cael eu hatal neu eu lleihau oherwydd y cyfyngiadau symud a'r angen i gadw pellter cymdeithasol yn ogystal â swyddi gwag staff.
Nododd yr Aelodau hefyd fod lefelau casglu'r Dreth Gyngor yn is wrth gymharu â'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, er bod modd defnyddio'r cyllid penodol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gostyngiad hwn.
Roedd y Cyfrif Refeniw Tai a oedd ynghlwm i'r adroddiad yn Atodiad B yn rhagweld y byddai tanwariant o £3,0603K ar gyfer 2020/21. Dywedwyd bod hyn o ganlyniad i ostyngiad cyffredinol yn y galw oherwydd COVID19, gyda dim ond gwasanaethu brys a gwasanaethau deddfwriaethol yn cael eu cyflawni am gyfnodau sylweddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw y Cyngor ar gyfer diwedd blwyddyn 2020/21 yn cael ei dderbyn.
|
|||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR - 1 EBRILL 2021 - 30 MEHEFIN 2021 PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021, o ran 2021/2022. Er bod maint ymateb COVID19 yn lleihau, roedd sefyllfa'r gyllideb yn cydnabod y pwysau ariannol parhaus a wynebir gan yr Awdurdod yn ogystal â'r cymorth ariannol ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £285k gyda thanwariant o £508k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Dywedwyd bod hyn o ganlyniad i gyfuniad o gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru. Hefyd, effeithiwyd ar rai gwasanaethau oherwydd iddynt gael eu hatal neu oherwydd y cyfyngiadau symud a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn chwarter 1.
Nododd Aelodau'r Cabinet, o ran cyllidebau Ebrill-Mehefin, fod cyfanswm o £6 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'i hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.
Tynnwyd sylw'r Cabinet at y ffaith bod lefelau casglu'r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn is na'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, a byddai hyn yn parhau i gael ei gael ei fonitro'n agos gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yn enwedig wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.
Wrth nodi bod y gorwariant a ragwelwyd o £273k yn y Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant, a bod adennill incwm a gollwyd yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru tan 30 Medi 2021, dywedwyd bod staff wrthi'n datblygu syniadau arloesol er mwyn hyrwyddo ac annog y cyhoedd i ddychwelyd i gyfleusterau hamdden ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn cynyddu refeniw incwm.
Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,476k ar gyfer 2021/22. Darparwyd manylion am hyn yn Atodiad B a oedd ynghlwm i'r adroddiad. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 10.1 Bod adroddiad monitro'r gyllideb yn cal ei dderbyn ac ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol. 10.2 Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.
|
|||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2021/22 PDF 411 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021/22 ar 30 Mehefin, 2021.
Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £91,568k o gymharu â chyllideb net weithredol o £130,490k gan roi -£38,922k o amrywiant. Nododd Aelodau'r Cabinet fod yr amrywiant a oedd yn cael ei ragweld ar hyn o bryd yn ymwneud yn bennaf ag oedi gyda datblygiad Pentre Awel a rhai datblygiadau ysgol oherwydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â phandemig COVID19.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys y Cyfrif Refeniw Tai gwreiddiol a'r Gronfa Gyffredinol, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, llithriad o 2020/21. Nodwyd bod rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Diweddariad y Rhaglen Gyfalaf 2021/22.
|
|||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2020-2021 PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2020-21.
Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2020-21 ar 3 Chwefror 2020. Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2020-21.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn mabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol 2020/21 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys.
|
|||||||||
ARDAL TY-ISA/HEOL YR ORSAF PDF 622 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion y Cyngor ar gyfer Ardal Tyisha/Heol yr Orsaf yn Llanelli. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith a wnaed hyd yma, gan gynnwys dymchwel y fflatiau gwag yn y 4 "T?", ynghyd ag amlinellu blaenoriaethau allweddol eraill ar gyfer symud y rhaglen newid yn ei blaen.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am Lanelli, y weledigaeth ar gyfer Tyisha, tai ac adfywio Tyisha yn ogystal â gwybodaeth am y dyluniad a sut i gyflwyno barn a syniadau.
Nododd Aelodau'r Cabinet fod ardal Tyisha yn Llanelli yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y cynlluniau ar gyfer datblygiad arfaethedig Pentre Awel a Chanol Tref Llanelli. Nodwyd bod un o amcanion allweddol y cynnig yn anelu at ddatblygu cynllun trawsnewidiol i fynd i'r afael â'r materion sylweddol sy'n effeithio ar gymuned Tyisha a gwneud yr ardal yn lle bywiog i fyw a gweithio ynddi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gwmni Cartrefi Croeso, sef Cwmni Tai Lleol y Cyngor, a sefydlwyd yn 2018 i gefnogi'r Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy i'w gwerthu a'u rhentu gan sicrhau amrywiaeth o opsiynau i'w helpu i gyflawni ei ymrwymiad tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion a dyheadau tai fforddiadwy, gan gefnogi twf economaidd ac adfywio strategol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gan gwmni Cartrefi Croeso hyd yma ac yn mynd i'r afael â rôl y cwmni yn y dyfodol yn sgil yr amgylchiadau a oedd wedi codi yn dilyn sefydlu'r cwmni yn y lle cyntaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn esbonio sut y byddai'r Cyngor bellach yn arwain ar bob datblygiad tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg yn y dyfodol o ganlyniad i ddatblygu sgiliau a chapasiti yn sylweddol ar gyfer y dyfodol. Byddai hyn yn caniatáu darparu cartrefi fforddiadwy newydd a fyddai'n parhau i gyfrannu’n sylweddol at adferiad economaidd y Sir, ar ôl COVID.
Bu'r Cabinet yn ystyried y dull arfaethedig ar gyfer y dyfodol a fyddai'n galluogi'r Cyngor i arwain ar bob datblygiad tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg. Byddai'r dull hwn yn galluogi'r Cyngor ei hun i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd ariannu, gan gynllunio, comisiynu a darparu'r holl dai fforddiadwy a ddarperir ledled y sir yn strategol. Nododd Aelodau'r Cabinet y byddai'r opsiwn hwn yn lleihau costau parhaus y Cwmni yn sylweddol. Er mwyn sicrhau bod cyfle i ddefnyddio'r Cwmni pe bai angen yn y dyfodol, ac os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny, cynigiodd yr adroddiad y dylai Cartrefi Croeso gael ei ddynodi yn gwmni segur ond parhau i fodoli ar gofrestr y cwmnïau yn Nh?'r Cwmnïau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
MESURAU MANNAU CYHOEDDUS COVID-19 PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig opsiynau ynghyd ag argymhellion ar fesurau a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19 yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.
Nododd yr Aelodau Cabinet fod ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r cyhoedd a busnesau rhwng 16 Tachwedd 2020 a 4 Ionawr 2021 a hynny ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid. Crynhowyd y prif ganfyddiadau yn adroddiad llawn yr ymgynghoriad a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.
Nodwyd bod llawer o'r newidiadau i'r mannau cyhoeddus wedi'u hategu drwy gyfrwng gorchmynion cyfreithiol a ddrafftiwyd naill ai dros dro neu ar sail arbrofol a oedd yn ddilys am hyd at 18 mis o ddechrau mis Awst 2020 gyda'r newidiadau canlynol yng nghanol y trefi yn cael eu rhoi ar waith:-
· Terfynau Cyflymder - Gorchmynion Dros Dro · Newidiadau parcio - Gorchmynion Arbrofol · Gwahardd Gyrru a Mynediad - Gorchmynion Dros Dro
Terfynau Cyflymder - Gorchmynion Dros Dro: Mae ymyriadau rheoli traffig o ran gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cynnig diogelwch ar y ffyrdd hirdymor a buddion teithio llesol ac roeddent yn unol â deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau cyflymder o 20mya mewn ardaloedd trefol. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid gwneud y gorchmynion terfyn cyflymder dros dro presennol, a oedd yn dod i ben ym mis Ionawr 2022, yn barhaol drwy broses statudol y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig fel y nodir yn atodlen 1 yr adroddiad.
Newidiadau parcio - Gorchmynion Arbrofol: Roedd nifer o’r newidiadau i ardaloedd parcio wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac awgrymodd yr adroddiad y dylai rhain fod yn barhaol, ac fe’u rhestrir yn Atodlen 2 yr adroddiad. Serch hynny, dylid dileu rhai eraill nad oedd wedi bod mor llwyddiannus. Fe’u rhestrir yn Atodlen 3 yr adroddiad.
Gwahardd Gyrru a Mynediad - Gorchmynion Dros Dro: Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r opsiynau mewn perthynas â Rheoli Traffig (Mynediad yn Unig) a Cherddwyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
15.1 bod y terfynau cyflymder a nodir yn Atodlen 1 yn cael eu hyrwyddo fel terfynau cyflymder parhaol.
15.2 bod y mannau parcio a nodir yn Atodlen 2 fel Gorchmynion Arbrofol yn cael eu cadarnhau fel rhai parhaol a bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu llunio yn unol â hynny.
15.3 bod y mannau parcio yng Nghaerfyrddin yn cael eu dileu fel y nodir yn Atodlen 3
15.4 bod y gorchymyn traffig 'Mynediad yn Unig' dros dro ar Heol y D?r, Caerfyrddin yn cael ei hyrwyddo fel un parhaol ac yn cael ei orfodi.
15.5 bod y mesurau i gerddwyr yng nghanol trefi Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu dileu gan nad oes eu hangen mwyach am resymau sy'n gysylltiedig â Covid (Opsiwn 2).
Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, ac yn dilyn caniatâd y Cadeirydd, cyhoeddodd y Cynghorydd Tremlett fod y Cyngor Sir a Llesiant Delta ar ddydd Mercher, 8 Medi, 2021 wedi ennill y wobr Arian ar y cyd yn y categori Arloesi ar gyfer y Rhaglen Connect yng Ngwobrau Rhagoriaeth Trawsnewid y Sector Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llundain. Mynegodd yr Arweinydd ei longyfarchiadau i'r tîm ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15. |