Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
HYRWYDDO CAFFAEL BLAENGAR PDF 340 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad wedi'i dynnu'n ôl hyd nes y bydd y Pwyllgor Craffu perthnasol yn ei ystyried. Nodwyd y byddai'r adroddiad ac unrhyw argymhellion Craffu yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol yn ddiweddarach.
|
|||||||||||||
CYNLLUN ADFER A CHYFLAWNI ECONOMAIDD SIR GAERFYRDDIN PDF 382 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad wedi'i dynnu'n ôl hyd nes y bydd y Pwyllgor Craffu perthnasol yn ei ystyried. Nodwyd y byddai'r adroddiad ac unrhyw argymhellion Craffu yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol yn ddiweddarach.
|
|||||||||||||
GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL DRAFFT CANOL TREFI RHYDAMAN A CHAERFYRDDIN PDF 441 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn nodi cynnydd a chynigion mewn perthynas â pharatoi Gorchmynion Datblygu Lleol (LDO) ar gyfer Canol Trefi Rhydaman a Chaerfyrddin.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Gorchmynion Datblygu Lleol Drafft wedi cychwyn ar 12 Ionawr, 2021 ac wedi dod i ben ar 26 Chwefror, 2021. Nodwyd bod tua 19 o sylwadau wedi dod i law gan ystod o sefydliadau a phartïon â diddordeb.
Dywedwyd, ers yr achosion o COVID-19, fod busnesau yng nghanol trefi Caerfyrddin a Rhydaman wedi ei chael hi'n anodd, a bod rhai busnesau wedi penderfynu cau. Ceisiodd yr adroddiad fynd i’r afael â’r sefyllfa dros dro hon trwy ystyried a dynodi Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer Canol Trefi Rhydaman a Chaerfyrddin.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai Gorchymyn Datblygu Lleol yn symleiddio'r broses gynllunio trwy ddileu'r angen am geisiadau cynllunio, gan ganiatáu i ddatblygwyr fwrw ymlaen yn gyflymach a chyda sicrwydd wrth leihau costau. Yng nghanol trefi, byddai Gorchmynion Datblygu Lleol yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem yn ymwneud ag eiddo gwag i gael canol trefi mwy hyfyw a bywiog.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
8.1 ystyried y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Trefi Rhydaman a Chaerfyrddin. 8.2 cymeradwyo argymhellion yr adroddiad. 8.3 cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad hwn, a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno (yn amodol ar Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol boddhaol). 8.4 rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Gorchymyn Datblygu Lleol a diweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.
|
|||||||||||||
CRONFA LIFOGYDD A SEILWAITH BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN PDF 415 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn gofyn am ystyried pecyn cymorth cyffredinol ar gyfer busnesau sy'n adfer yn dilyn Covid-19 a llifogydd.
Nodwyd bod busnesau yn Sir Gaerfyrddin wedi parhau i ddioddef o achos y nifer cynyddol o lifogydd yn sgil stormydd. Oherwydd hyn, cyflwynwyd a chymeradwywyd adroddiad yng nghyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – Arweinydd ar 17 Mawrth er mwyn cymeradwyo parhad y Gronfa Lifogydd Busnesau wreiddiol i gynorthwyo busnesau Sir Gaerfyrddin. Roedd adroddiad yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd yn cymeradwyo defnyddio’r gyllideb sy’n weddill (£96k) o’r £200k gwreiddiol a neilltuwyd o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin i gyflawni’r Gronfa Lifogydd Busnesau yn 2018. Roedd y gymeradwyaeth hefyd yn cynnwys diwygiad i'r meini prawf cymhwysedd gwreiddiol i alluogi busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y tair blynedd diwethaf i gael cymorth ariannol ar gyfer prosiectau rhagweithiol i ddiogelu eu heiddo rhag difrod a achosir gan lifogydd yn y dyfodol.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai cymorth yn cael ei roi i ddatblygu prosiect yn Llangadog a fyddai o fudd i'r gymuned ac i gyflogwr lleol mawr yn y dref. Roedd trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Cambrian Pet Foods mewn perthynas â phrosiect partneriaeth posibl gyda phob parti’n ariannu traean o gostau prosiect i fynd i’r afael â llifogydd rheolaidd sy’n effeithio ar y briffordd, busnesau lleol a thrigolion fel ei gilydd a byddai tua £50k yn cael ei ddyrannu i'r cynllun hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo pecyn cymorth cyffredinol i fusnesau sy'n adfer ar ôl Covid-19 a llifogydd drwy:
9.1neilltuo £25k o'r Cronfeydd Cyfalaf Adfywio presennol ar gyfer caffael stoc o ddadleithyddion (amcangyfrifir eu bod yn costio £1,500 fesul eitem, 16 uned i gyd) i'w cadw’n ganolog ac yna eu benthyca i helpu busnesau yr effeithir arnynt i fynd i'r afael â difrod llifogydd ar unwaith. 9.2neilltuo'r £96k sy'n weddill o'r dyraniad cychwynnol o £200k o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin (fel y'i cymeradwywyd yng nghyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Arweinydd ar 17 Mawrth 2021). 9.3neilltuo £200k o gronfeydd Cyfalaf Adfywio presennol i ymgymryd â phrosiectau peilot i wneud gwaith mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol a busnesau yr effeithir arnynt i wella amddiffynfeydd llifogydd ac atal llifogydd rheolaidd i wella seilwaith a hynny am uchafswm o hyd at 50k y prosiect.
|
|||||||||||||
CYLLID LLYWODRAETH Y DU PDF 421 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan fod y Cynghorydd C. A. Davies wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod.]
Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfleoedd cyllido Llywodraeth y DU a fyddai'n effeithio ar Sir Gaerfyrddin.
Nodwyd, wrth gyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth 2021, y cyhoeddodd Canghellor y DU nifer o fentrau a rhaglenni cyllido newydd. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i ddwy o'r rhaglenni newydd, Cronfa Codi'r Gwastad a'r Gronfa Adfywio Cymunedol.
Dywedodd yr Arweinydd fod £800m ar gael trwy Gronfa Codi'r Gwastad i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd. Byddai'r Gronfa yn buddsoddi mewn ystod o flaenoriaethau buddsoddi lleol gan gynnwys cynlluniau trafnidiaeth lleol, prosiectau adfywio ac asedau diwylliannol. Byddai ymgeiswyr yn cael eu hannog i gynnwys cyfraniad ariannol lleol sydd o leiaf 10% o gyfanswm y costau.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Cronfa Codi'r Gwastad yn gronfa gyfalaf yn unig, a weinyddir gan Drysorlys Ei Mawrhydi (HMT), y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a'r Adran Drafnidiaeth (DfT). Byddai cyllid yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol trwy Awdurdodau Lleol, ac ymgynghorir â Llywodraeth Cymru wrth asesu cynigion perthnasol.
Mae nifer y cynigion y gallai awdurdod lleol eu gwneud yn seiliedig ar nifer yr Aelodau Seneddol yn ei ardal; gan fod Sir Gaerfyrddin yn rhan o 3 etholaeth seneddol wahanol, byddai cyfle i gyflwyno hyd at 3 chais yn cwmpasu'r Sir (2 mewn perthynas ag etholaethau yn gyfan gwbl yn Sir Gaerfyrddin ac 1 ar y cyd lle mae'r etholaeth yn un drawsffiniol). O ran Gorllewin Caerfyrddin, (etholaeth ar y cyd â De Sir Benfro), byddai angen ymgysylltu â Chyngor Sir Penfro a chyflwyno cynnig ar y cyd. Yn ogystal, gallai Awdurdodau Lleol gyflwyno un cais o ran trafnidiaeth. Byddai ceisiadau o ran trafnidiaeth yn unig yn cael eu dyrannu'n annibynnol ar ffiniau etholaeth ac yn destun proses achos busnes fanylach. Nodwyd bod yn rhaid cyflwyno ceisiadau am y rownd gyntaf o gyllid i Lywodraeth y DU erbyn 18 Mehefin 2021.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r Gronfa Adfywio Cymunedol gwerth £220m yn rhoi cymorth i gymunedau dreialu prosiectau a dulliau newydd cyn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a fyddai'n cael ei lansio yn 2022. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r gronfa'n gyllid refeniw o 90% a bod angen cwblhau'r holl brosiectau yn ariannol erbyn 31 Mawrth 2022. Byddai'r Gronfa yn broses gystadleuol ac ni fyddai unrhyw gymhwysedd yn cael ei osod ymlaen llaw. Roedd Llywodraeth y DU wedi nodi 100 o leoedd â blaenoriaeth a nodwyd Sir Gaerfyrddin ymhlith y 100 lle hyn. Roedd Sir Gaerfyrddin hefyd wedi'i nodi fel awdurdod arweiniol a byddai disgwyl iddi wahodd cynigion am brosiectau a gwerthuso a blaenoriaethu rhestr fer o brosiectau hyd at uchafswm o £3 miliwn y lle. Byddai'r rhestr fer o brosiectau yn cael ei chyflwyno i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol erbyn 18 Mehefin 2021. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 10.1 gymeradwyo'n ôl-weithredol y broses a sefydlwyd ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2021, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19 a'r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,980k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai tanwariant o £1,872k ar lefel adrannol.
Er bod adroddiadau yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos gorwariant sylweddol oherwydd effaith Covid-19, nododd y Bwrdd Gweithredol fod y sefyllfa a ragwelir ar hyn o bryd wedi gwella'n sylweddol, gyda'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid-19 a'r incwm a gollwyd yn cael eu had-dalu'n bennaf o gynllun caledi Llywodraeth Cymru.
Nodwyd hefyd, er y byddai tanwariant cyllideb refeniw yn cael ei ystyried yn ffafriol, dengys y manylion a amlinellwyd yn yr adroddiad fod hyn yn parhau i effeithio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen yn ogystal â lleihau/atal rhai gwasanaethau ataliol yn anochel. Roedd hyn, ynghyd ag unrhyw oedi parhaus wrth gyflawni arbedion, yn peri risg sylweddol i gyllidebau yn y dyfodol. Dangosir yn Atodiad A i'r adroddiad y sylwadau ar yr amrywiannau penodol yn y gyllideb lle nodwyd tybiaethau
Nododd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn nodi bod casglu'r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn faes sy'n peri pryder sylweddol. Gwelodd Sir Gaerfyrddin ostyngiad amlwg mewn taliadau yn ystod y chwarter cyntaf, ac mae'n annhebygol y bydd yn adfer yn llawn yn ystod y flwyddyn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol, wedi'i ddyrannu ar sail fformiwla Grant Cynnal Refeniw, rhagwelwyd y byddai diffyg arian yn gyffredinol o hyd. Roedd y cynnydd yn y ddarpariaeth ddrwgddyled bellach wedi'i hadlewyrchu yn y rhagolwg. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 11.1 Dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol. 11.2 Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.
|
|||||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21 PDF 452 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Datganodd y Cynghorydd L.M. Stephens a P. Hughes-Griffiths fuddiant tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21 ar 28 Chwefror, 2021.
Roedd Atodiad A a atodwyd i'r adroddiad yn rhagweld gwariant net o £34,525k o gymharu â chyllideb net weithredol o £76,120k gan roi £41,595k o amrywiant. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr amrywiant sylweddol a ragwelir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei briodoli i raddau helaeth i'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â phandemig Covid-19 a’i fod yn dilyn addasiad i’r cyllidebau i gyfleu bod £38m wedi'i lithro i'r blynyddoedd i ddod.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar Gynlluniau ychwanegol i'r Rhaglen Gyfalaf a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol.
Bu'r Bwrdd yn ystyried y prif amrywiannau a nodwyd ym mhob adran a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn Atodiad B.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
12.1 dderbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf. 12.2 bod y prosiectau ychwanegol y manylir arnynt yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.
|
|||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|