Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Nodyn: Original Budget Date
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR: Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 yn gofnod cywir. |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2021 yn gofnod cywir. |
||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||
CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL GYNRADD WG MODEL PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan i'r Cynghorydd H. Evans ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cynnig gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn nodi ei gynigion y byddai natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.
Byddai'r newid ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen ac ni fyddai'n effeithio ar ddisgyblion presennol yr ysgol.
Dywedwyd bod y cynnig yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol wrth symud ysgolion y sir ar hyd y continwwm Cymraeg.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod cymeradwyaeth yn cael ei cheisio i gychwyn ymgynghori ffurfiol yn unig, a oedd yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru. Awgrymwyd y dylai'r Awdurdod ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn gofyn iddo egluro'n gyhoeddus y rheoliad mewn perthynas ag ymgynghoriadau. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'n ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ynghylch hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO:
|
||||||||||
CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y FELIN PDF 379 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn nodi ei gynigion y byddai natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.
Byddai'r newid ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen ac ni fyddai'n effeithio ar ddisgyblion presennol yr ysgol.
Dywedwyd bod y cynnig yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol wrth symud ysgolion y sir ar hyd y continwwm Cymraeg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO:
|
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2019-20 PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad wedi'i dynnu'n ôl. |
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2019-20 PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |
||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |
||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
TIR YM MHENPRYS, LLANELLI Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn rhoi'r awdurdod dan anfantais mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio pwrs y wlad.
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i waredu tir sy'n eiddo i'r cyngor ym Mhenprys, Llanelli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo dirprwyo'r awdurdod hwnnw i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriadâ'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, i drafod telerau ac ymrwymo i gytundeb opsiynau gyda'r tirfeddiannwr cyfagos ym Mhenprys, Llanelli. |
||||||||||
LLAIN 4 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn rhoi'r awdurdod dan anfantais mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio pwrs y wlad.
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i waredu tir sy'n eiddo i'r cyngor yn Llain 4, Parc Manwerthu Trostre, Llanelli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo'r bwriad i waredu tir yn Llain 4, Parc Manwerthu Trostre, Llanelli ar y telerau a nodir yn yr adroddiad. |
||||||||||
ADEILAD RHODFA'R GORON, LLANELLI
Cofnodion: [SYLWER: Gan i'r Cynghorydd G. Davies ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cynnig gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn rhoi'r awdurdod dan anfantais mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio pwrs y wlad.
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn cynnig gwaredu adeilad Rhodfa'r Goron yng nghanol tref Llanelli i gefnogi'r gwaith o adnewyddu / ymestyn Adeilad cyfagos y Goron.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo gwaredu Adeilad Rhodfa'r Goron, Llanelli ar y telerau a nodir yn yr adroddiad.
|