Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Tremlett.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, gan eu bod yn gywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi ei thynnu oddi ar yr agenda.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 30 Hydref 2018.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant o £1,255k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,760k gan yr adrannau. Roedd y pwysau mwyaf sylweddol yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, ac mae angen i'r Adran roi sylw beirniadol i'r sefyllfa a ragwelir ar hyn o bryd.
Mynegwyd pryderon ynghylch y ffaith nad yw'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyfrannu'n llawn at y cytundebau teiran ar gyfer lleoliadau yn Uned Breswyl y Garreg Lwyd ac ystyriwyd y byddai angen atgoffa'r Bwrdd am ei gyfrifoldeb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.
|
|
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2018-19. PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2018/19, fel yr oedd ar 31 Hydref 2018.
Nodwyd y rhagwelwyd gwariant net o £52,244k o gymharu â chyllideb net weithredol o £43,878k gan roi £-1,634k o amrywiant.
Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio gan £1.887 miliwn pellach o 2018/19 i'r blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant a chafodd y llithriad yn y gyllideb o 2017/18 ei gynnwys hefyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: The Chair reported that there were no items of urgent business.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD. NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
CYMORTH ARIANNOL I YMDDIRIEDOLAETH ADFYWIO TREFTADAETH SIR GAR/ BLAS LLANELLY. Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
[Nodyn – Nid oedd C Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yn bresennol yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.]
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr achos dros gymorth ariannol parhaus ar gyfer prosiect Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhelliad o becyn cymorth ar gyfer Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly o hyd at £60k y flwyddyn am y 2 flynedd nesaf yn amodol ar adolygiad o'r rhagolygon ariannol cyn blwyddyn 2.
|