Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||
COFNODION Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||
30AIN EBRILL, 2018; PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2018 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||
BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r ffrydiau cyllido cysylltiedig yn ffurfiol.
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, ynghyd â'r tri awdurdod lleol sef Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, wedi cytuno i lofnodi Cytundeb Bargen Ddinesig (Penawdau Telerau) werth cyfanswm o £1.3 biliwn, a oedd wedi'i lofnodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar 20 Mawrth 2017. Ar ôl hynny, roedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi bod yn gweithredu ar ffurf gysgodol i gadw'r momentwm a datblygu'r trefniadau llywodraethu er mwyn galluogi i'r rhanbarth gyflawni'r rhaglen. Roedd hyn yn cynnwys llunio'r Cydgytundeb i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol y byddai Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cydymffurfio ag ef.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod trafodaethau hefyd wedi'u cynnal â Llywodraeth Cymru, lle cytunwyd ar y canlynol fel rhan o drefniadau gweithredu'r Fargen Ddinesig:- · Byddai awdurdodau lleol y Fargen Ddinesig yn gallu cadw 50% o elw net ychwanegol yr ardrethi annomestig a gynhyrchir gan y 11 prosiect a fydd yn cael eu cyflawni fel rhan o'r fargen; · Byddai awdurdodau lleol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gallu defnyddio hyblygrwydd o ran cyllid mewn perthynas â gwariant y prosiect ar sail refeniw, fel y manylwyd yn y Cydgytundeb. Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai angen i'r adroddiad gael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 13 Mehefin 2013, os yw'n cael ei gymeradwyo, a chan dri awdurdod lleol arall Bargen Ddinesig Bae Abertawe erbyn diwedd mis Gorffennaf 2018.
Cyfeiriwyd at rôl y Cyngor fel awdurdod arweiniol y Fargen Ddinesig, a mynegodd Aelodau'r Bwrdd eu gwerthfawrogiad i holl Swyddogion y Cyngor am eu hymrwymiad a'u hymroddiad wrth arwain prosiect y fargen ddinesig dros y ddwy flwyddyn ddiweddaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||||
FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23 PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Fersiwn Ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23. Os caiff ei mabwysiadu, byddai'n cymryd lle'r strategaeth bresennol a gyhoeddwyd yn 2015, yn ogystal â chyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-
- Strategaeth Gorfforaethol 2015-20; - yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol 2009; - yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - nid oedd angen newid y rhain bob blwyddyn, na’u cyflawni o fewn blwyddyn ac roedd nodi amcanion sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon; - Prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a Rhaglenni am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf”.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod Fersiwn Ddrafft y Strategaeth wedi bod yn destun ymgynghoriad â Phwyllgorau Craffu'r Cyngor a bod nifer o newidiadau ac eglurhad wedi'u gwneud ar ôl hynny er mwyn adlewyrchu barn y Pwyllgorau hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a gadawodd Siambr y Cyngor yn ystod y trafodaethau)
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, wedi cytuno i sefydlu cwmni tai cyngor ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor er mwyn adeiladu tai i'w gwerthu a'u rhentu a bod yn gatalydd ar gyfer gweithgareddau adfywio pellach. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a fanylodd ar y canlynol: - Gofynion ariannu'r cwmni - gan gynnwys Cynllun Busnes lefel uchel 2018-2023 y cwmni; - Y broses ar gyfer penodi cyfarwyddwyr; - Dirprwyo Cytundeb Cyfranddaliwr. Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at benodiad a rôl cyfarwyddwyr y cwmni, a gofynodd sut y byddai'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, yn mesur llwyddiant y cwmni o ran ansawdd, maint, cyllid a phrydlondeb, a sut y byddai Cynghorwyr Sir yn gallu cael gwybod am y ffactorau hynny, er enghraifft drwy Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Pwyllgor Craffu - Cymunedau, neu drwy ddull arall.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai gan y cwmni bum cyfarwyddwr, sef dau Swyddog Cyngor (heb dâl), un Cynghorydd Sir (heb dâl) a dau allanol (gyda thâl) i'w penodi gan y Prif Weithredwr, yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt a chan ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor. Byddai llwyddiant y cwmni yn cael ei fesur a'i fonitro gan ddefnyddio'r Cynllun Busnes, a allai fod angen ei adolygu maes o law. Byddai Swyddog Adran 151 y Cyngor yn gyfrifol am fonitro hynny a sicrhau bod buddiannau'r Cyngor yn cael eu cynnal.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai Cynllun Busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau bob blwyddyn. Hefyd ni welai unrhyw reswm pam na ddylai'r cwmni lunio adroddiad blynyddol i'w gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 387 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,421k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £220k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant diwedd blwyddyn o £57k.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb. |
|||||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf mewn perthynas â chyllideb 2017/18, fel yr oedd ar 28 Chwefror 2018. Byddai'r arian llithriad yn y flwyddyn o £-10, 843k yn cael ei gynnwys yn rhaglen y blynyddoedd i ddod.
|
|||||||||||||
CYFRADDAU BUSNES – CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI'R STRYD FAWR 2018/19 PDF 199 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, sydd â'r nod o ddarparu cymorth i fanwerthwyr y stryd fawr megis siopau, tafarnau a bwytai y mae eu hardrethi wedi cynyddu o ganlyniad i'r gwaith ailbrisio a wnaed gan y Swyddfa Brisio yn 2017. Nodwyd bod y cynllun yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac y byddai'n darparu £170k o ryddhad i oddeutu 600 o fusnesau yn y Sir.
Gan mai mesur dros dro oedd y cynllun, dywedwyd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond byddai'n caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn sydd ar gael o dan Adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Yn unol â hynny, byddai angen i'r Cyngor fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
STRATEGAETH CAFFAEL 2018-2022 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Strategaeth Gaffael arfaethedig ar gyfer 2018-2022, a oedd â'r nod o gael fframwaith ar waith er mwyn sicrhau bod gan benderfyniadau comisiynu a chaffael rôl allweddol o ran cefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol a Chynllun Llesiant y Cyngor. Amlinellodd y Strategaeth flaenoriaethau o ran sut y byddai'r broses gaffael yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni'r nodau hynny, a dyma'r blaenoriaethau allweddol:- · Gwario arian yn effeithiol; · Gweithredu prosesau a gweithdrefnau sy'n cydymffurfio; · Cynnal a datblygu'r economi leol; · Cefnogi cyd-weithio. Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at ddefnydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gofynodd a yw hwnnw'n orfodol.
Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodaeth gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau nad yw'n orfodol a bod y Cyngor wedi eithrio o'r Gwasanaeth sawl gwaith o'r blaen er mwyn cefnogi busnesau lleol yn Sir Gaerfyrddin, lle bo'n bosibl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Strategaeth Caffael Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-2022. |
|||||||||||||
CÔD YMARFER LLWYODRAETH CYMRU – CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch mabwysiadu Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chyflogaeth Foesegol mewn Cadwyn Gyflenwi y disgwylir i bawb sy'n derbyn cyllid y sector cyhoeddus gydymffurfio ag ef.
Nodwyd bod y Côd yn trafod chwe phwnc allweddol, gan gynnwys 12 argymhelliad, sy'n amrywio o arferion anghyfreithlon ac anfoesegol i arferion da ac arferion gorau. Yn ogystal, os caiff ei fabwysiadu, disgwylir y byddai'r Cyngor hefyd yn penodi Hyrwyddwr Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i'r Awdurdod sefydlu cynllun er mwyn darparu cymorth ariannol i deuluoedd difreintiedig tuag at gost Gwisg Ysgol newydd wrth symud i ysgolion uwchradd, fel y nodir yn Atodiad 1, yn lle'r cynllun blaenorol a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi dod i ben fel rhan o gyllideb 2018/19.
PENDERFYNWYD YN UNRYDOL sefydlu cynllun lleol ar gyfer helpu teuluoedd difreintiedig â chost gwisg ysgol, wrth symud i ysgolion uwchradd, a hynny ar ôl i Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru ddod i ben. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â chofnod 6 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch canlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a gynhaliwyd ynghylch cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210. Nodwyd bod y cynnig wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, os bydd yn fodlon nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad ac wedi cael ei gyhoeddi yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol gan ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, y dylai'r Cyngor wireddu'r cynnig fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Statudol. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â chofnod 7 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch canlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a gynhaliwyd ynghylch cynigion i ddarparu addysg feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn drwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11. Nodwyd bod y cynnig wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, os bydd yn fodlon nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad ac wedi cael ei gyhoeddi yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol gan ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, y dylai'r Cyngor wireddu'r cynnig fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Statudol. |
|||||||||||||
STRATEGAETH DIGARTREFEDD PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ond arhosodd yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y penderfyniad)
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch datblygu Strategaeth Digartrefedd yn unol â gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 a roddodd dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Amlinellodd yr adroddiad y dull a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod hyd yn hyn a'r 5 maes allweddol isod i fynd i'r afael â hwy cyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol erbyn y dyddiad cau ym mis Rhagfyr 2018:- Ø Adolygiad o'r data a'r wybodaeth; Ø Ymgysylltu â rhanddeiliaid; Ø Datblygiad y Strategaeth a Datganiad o Egwyddorion; Ø Datblygu'r Cynlluniau Gweithredu Lleol; Ø Ymgynghoriad Cyhoeddus Ffurfiol ynghylch y Strategaeth Ddrafft a'r Cynllun Gweithredu. Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at y mater o'r rhai sy'n cysgu ar soffas ffrindiau neu yn yr awyr agored, a gofynnodd a fyddai'n bosibl gofyn iddynt pam yr oeddent yn ddigartref a beth allai'r Awdurdod ei wneud i'w helpu cyn iddynt fod mewn sefyllfa anodd iawn.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod y berthynas rhwng yr adran a'r bobl ddigartref yn bwysig a bod sesiynau 1:1 yn cael eu cynnal gyda chleientiaid fel rhan o'r broses o adeiladu eu hyder a'u hymddiriedaeth er mwyn eu cynorthwyo i newid eu sefyllfa. Er bod casglu gwybodaeth yn rhan bwysig o wasanaeth allgymorth y Cyngor, mae'n rhaid derbyn na fyddai rhai pobl yn hoffi rhannu gwybodaeth bersonol.
O ran cwestiwn ynghylch lefel yr ymgynghoriad a gynhelir, cadarnhawyd y gallai'r awdurdod gysylltu ag undebau ffermio. Yn ogystal, byddai unrhyw berson/sefydliad yn cael ei groesawu i ymateb i'r ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||||||
NEWID I'R POLISI ADNEWYDDU TAI Y SECTOR PREIFAT PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd P.M. Hughes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr yn ystod y trafodaethau)
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried newid i Bolisi Adnewyddu Tai Sector Preifat y Cyngor sy'n adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i'w gynllun Benthyciad Gwella Cartrefi a'i gynllun Troi Tai'n Gartref. Fel rhan o'r cynnig hynny, byddai'r Awdurdod yn derbyn £1.25m i gefnogi pob math o gymorth ariannol er mwyn i berchnogion t? gynnal a chadw eu cartrefi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu meini prawf diwygiedig cynllun Benthyciad Gwella Cartrefi a chynllun Troi Tai'n Gartref Llywodraeth Cymru a diwygio Polisi Adnewyddu Tai Sector Preifat y Cyngor er mwyn adlewyrchu'r newidiadau hynny. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ddiweddariad i Ganllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy'r Cyngor - Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin. Nodwyd mai bwriad y diweddariad oedd rhoi rhagor o eglurdeb am ddehongli a gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig. Byddai hyn hefyd yn cynorthwyo gyda dealltwriaeth a defnyddioldeb y Canllawiau Cynllunio Atodol.
Yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd D. Cundy am eglurhad ynghylch diffiniad y term 'Tai Fforddiadwy' ac am bwy a oedd yn gyfrifol am bennu eu cost; y datblygwr neu'r Cyngor.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, y Dirprwy Arweinydd, at baragraff 2.2 ar dudalen 439 yr adroddiad, a amlinellai’r diffiniad o Dai Fforddiadwy fel y manylwyd arno yn Nodyn Cyngor Technegol 2 Llywodraeth Cymru - Cynllunio a Thai Fforddiadwy 2006. Roedd hynny'n cynnwys diffiniad o Dai Cymdeithasol ar Rent a Thai Canolradd lle roedd prisiau neu rhenti'n uwch na'r rheiny ar gyfer tai cymdeithasol ar rent ond islaw prisiau a rhenti tai ar y farchnad a oedd yn cynnwys modelau perchentyaeth cost isel megis ecwiti a rennir neu gynlluniau prynu â chymorth. O ran pennu pris tai fforddiadwy ac unrhyw swm cyfnewid i'w dalu, gwneir hynny drwy gyd-drafod â datblygwyr yn unol â gofynion polisi, a nodwyd yn y CDLl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cytundeb Cyflawni Drafft mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau'n ffurfiol ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig (newydd) yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ar 23 Mawrth. Nodwyd y byddai angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo, yn amodol ar fod y Cyngor yn cadarnhau'r Cytundeb Drafft.
Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r amserlen ar gyfer ceisiadau am gynnwys safleoedd ymgeisio'n cael ei estyn o ddiwedd mis Mai i 29 Awst 2018, o ganlyniad i lythyr am baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a'u hamserlenni, a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2018 gan Lesley Griffiths A.C., Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||||||
STRATEGAETH FEICIO SIR GAERFYRDDIN PDF 376 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin a oedd â'r nod o sicrhau bod gan y cyngor gyfeiriad strategol clir sy'n cefnogi ei uchelgeisiau i fod yn arweinydd cenedlaethol o ran darparu digwyddiadau a datblygiadau seilwaith beicio, gan gyfrannu at ddyhead y Cyngor i fod yn ganolbwynt beicio Cymru a hefyd bodloni nifer o amcanion a nodir yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, Strategaeth Feicio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad bod 54% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin dros bwysau neu'n ordew yn ôl CDLl Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd eglurdeb ynghylch y datganiad yn yr adroddiad gan ymgynghorwyr sy'n gweithio ar y CDLl, prif ffynhonell y wybodaeth hon oedd Carmarthenshire Heart - Cit Offer Gordewdra Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cadarnhaodd y byddai'r Strategaeth yn cael ei diwygio i adlewyrchu'r brif ffynhonnell honno.
Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at yr agwedd gymdeithasol ar lwybrau beicio a'r angen i baratoi mapiau lleol i roi gwybod i'r cyhoedd am ffyrdd priodol o gael mynediad at siopau a lleoliadau cymdeithasol eraill ac ati drwy lonydd cefn ac a fyddai'n bosibl llunio mapiau o'r math.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod Map Teithio Llesol y Cyngor ar gael ar ei wefan; mae'n cynnwys 17 map o ardaloedd lleol sy'n manylu ar lwybrau cerdded a beicio fel ei gilydd. Yn ogystal, drwy ddefnyddio cyfleuster 'Lleol-i' ar y wefan, gall y cyhoedd gael mynediad i wybodaeth am lwybrau cyhoeddus yn eu hardal leol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin. |
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADau SY’N YMWNEUD Â’R MATERion CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||||||||
CANOLFAN ALWADAU RHYDAMAN/SWYDDFEYDD PARC AMANWY Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 22 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Swyddfeydd Parc Amanwy y Cyngor ac adeilad yr hen ganolfan alwadau yn Rhydaman.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad. |
|||||||||||||
GWERTHU TIR YN: DE-DDWYRAIN LLANELLI A CHANOL TREF LLANELLI Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 22 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion mewn perthynas â gwerthiant tir yn ne-ddwyrain Llanelli a chanol tref Llanelli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad. |