Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 23ain Ionawr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.O. Jones

8 – Polisi Galluogrwydd Enghreifftiol ar gyfer Athrawon a Phenaethiaid

9 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2016-17

Mae ei wraig yn bennaeth yn y Sir.

L.D. Evans

8 – Polisi Galluogrwydd Enghreifftiol ar gyfer Athrawon a Phenaethiaid

9 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2016-17

Mae ei merch yn athrawes yn y Sir.

 

3.

COFNODION - 22 RHAGFYR, 2016 pdf eicon PDF 651 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Rhagfyr 2016 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ac yn cael cyflwyniad, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a Dinas-ranbarth Bae Abertawe o ran Pecyn Buddsoddi'r Fargen Ddinesig ac i gael cymeradwyaeth yr Aelodau i ddirprwyo'r awdurdod i Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr, lofnodi'r cytundeb ynghylch y Fargen Ddinesig (Penawdau'r Telerau).

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn canolbwyntio ar fanteision y seilwaith digidol, y sector ynni, gweithgynhyrchu clyfar ac arloesedd mewn gwyddor bywyd ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig ledled y rhanbarth. Ers cyflwyno'r cynnig gwreiddiol ynghylch y Fargen Ddinesig ym mis Chwefror y llynedd, mae cyfnod o waith dwys wedi arwain at gyflwyno cynnig manwl yn cynnwys 11 prosiect penodol. Mae'r Fargen yn cynnwys cyfanswm buddsoddiad o thua £1.3 biliwn dros gyfnod o 15 mlynedd. Byddai hyn yn cynnwys arian gan y llywodraeth o £241m a fyddai'n cael ei rannu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU. Byddai £360m o arian gan y sector cyhoeddus a £673m o gyfraniadau ariannol gan y sector preifat  yn cyfrannu at gyfanswm y pecyn buddsoddi. Byddai'r buddsoddiad hwn yn sicrhau tua 9,465 o swyddi newydd ar gyfer y rhanbarth, gan gyfrannu at gynnydd yn y Gwerth Ychwanegol Gros o £1.8 biliwn. Esboniwyd yn dilyn cyflwyno'r cynnig, y cafwyd cyfres o drafodaethau â'r ddwy lywodraeth yn ogystal â digwyddiadau ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad ac eraill ledled y rhanbarth. Nodwyd y gobaith oedd y byddai'r Fargen yn cael ei llofnodi erbyn dechrau mis Mawrth.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod y Fargen Ddinesig yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gynyddu ffyniant a chyfleoedd yn y rhanbarth. Roedd Gwerth Ychwanegol Gros y rhanbarth wedi disgyn o 90% o gyfartaledd y DU i 77% dros y tri degawd diwethaf, gyda chynhyrchiant isel, anweithgarwch economaidd uchel ac iechyd gwael ymhlith rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r rhanbarth. Heb gynigion y Fargen Ddinesig byddai cau'r bwlch hwn yn heriol iawn.

 

Amlinellwyd y trefniadau llywodraethu a nodwyd bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bartneriaeth rhwng 8 sefydliad a'r sector preifat. Gan ddefnyddio'r fframwaith statudol presennol, byddai'r awdurdodau lleol yn sefydlu Cyd-bwyllgor a fyddai'n gyfrifol yn y pen draw am becyn buddsoddi'r Fargen Ddinesig. Nodwyd mai'r unig aelodau â phleidlais fyddai'r pedwar awdurdod lleol.

 

Byddai fargen yn cael ei chyllido ar sail rhaglen 15 mlynedd. Byddai'r pedwar awdurdod lleol yn gofyn am gael benthyg yr arian gofynnol ar gyfer eu prosiectau perthnasol a byddai'r arian yn cael ei ddarparu wrth i'r prosiect ddatblygu dros gyfnod o 5 mlynedd. Byddai'r benthyciad cyfalaf (o ran yr elfen sy'n cael ei hariannu gan y Llywodraeth) yn cael ei ad-dalu wrth dderbyn yr arian gan y Llywodraeth dros y 15 mlynedd.

 

Esboniwyd bod pecyn o 11 prosiect, a oedd yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol:

-       Rhyngrwyd Cyflymu'r Economi

-       Rhyngrwyd Ynni

-       Rhyngrwyd Gwyddorau Bywyd a Llesiant

-       Rhyngrwyd Gweithgynhyrchu Clyfar

 

Byddai'r Sir yn elwa ar yr holl gynigion, fodd bynnag, byddai'r Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant a'r Fenter Sgiliau a Thalentau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG (CSYGMA) 2017-2020 pdf eicon PDF 462 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol ddrafft y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017–20 a'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol. Cafwyd mân newidiadau i'r ddogfen drafft yn sgil yr ymgynghoriad statudol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd bod Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru (2013) yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Wrth ddatblygu'r Cynllun roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori ag ymgyngoreion statudol ac roedd y broses ymgynghori wedi llywio rhai mân newidiadau i'r Cynllun. Byddai'r fersiwn terfynol, ar ôl ei gymeradwyo, yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod y Cynllun yn gorfod cynnwys manylion am y modd yr oedd yr awdurdod lleol yn bwriadu cyflawni canlyniadau a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru a amlinellwyd yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a'r strategaeth ehangach ar gyfer y Gymraeg a'u gweledigaeth i 'gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050'.

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1, nododd y Cynghorydd D.M. Cundy rai materion a oedd wedi'u hepgor ac anghysondebau yn yr adroddiad, megis dyddiadau targed a manylion ynghylch sut y byddai'r rhain yn cael eu cyflawni. Nododd y byddai'n rhaid i'r cynllun weithio i bawb a gellid ystyried bod addysg leol yn ymddangos o blaid yr ysgol a'r weinyddiaeth addysg yn hytrach na'r gymuned. Nododd ei fod yn iawn i ehangu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos fel bod digon o opsiynau i ehangu'r ddarpariaeth ddwy ffrwd. Nododd nad oedd digon o leoedd mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg i ddarparu ar gyfer y cynnydd posibl mewn disgyblion a oedd yn dymuno symud ymlaen o addysg gynradd cyfrwng Cymraeg. Gofynnodd felly pa brosesau oedd ar gael i wneud newidiadau i'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y tu hwnt i'r broses ymgynghori. Esboniodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynllun gael ei adolygu a'i ddiwygio lle bo'n briodol. Fodd bynnag, nid oedd meini prawf wedi'u hamlinellu ac nid oedd canllawiau o ran sut y dylid gwneud hyn. Cadarnhawyd bod y canllawiau ar gyfer datblygu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi cael eu dilyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1       dderbyn yr adroddiad ar yr ymarfer ymgynghori statudol;

 

7.2       ystyried ymatebion y Cyngor Sir i'r ymgynghoriad;

 

7.3       bod fersiwn terfynol y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei dderbyn a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

8.

MODEL GWEITHDREFN GALLUOGRWYDD AR GYFER ATHRAWON A PENAETHIAID pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr L.D. Evans a G.O. Jones y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Weithdrefn Galluogrwydd Enghreifftiol ar gyfer Athrawon a Phenaethiaid. Dywedwyd wrth y Bwrdd bod yr angen ar gyfer y Weithdrefn hon wedi cael ei nodi'n flaenoriaeth gan ERW ac o ganlyniad roedd wedi cael ei ddatblygu'n rhanbarthol, ledled 6 Awdurdod Lleol sy'n rhan o ranbarth ERW, mewn ymgynghoriad â'r undebau llafur. Pwrpas y weithdrefn oedd helpu ysgolion i sicrhau gwelliant ac roedd nodi tanberfformiad yn gynnar yn allweddol i hwn.

 

Croesawodd yr Aelodau'r Weithdrefn ac roeddent o'r farn y byddai o fudd i' ysgolion. Nodwyd ei bod yn cynnig gweithdrefn i ysgolion ei dilyn a'i haddasu yn ôl yr angen. Nodwyd nad oedd y gweithdrefnau'n berthnasol i Athrawon Newydd Gymhwyso gan fod gweithdrefnau ar wahân iddynt hwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLgymeradwyo mabwysiadu'r Weithdrefn Galluogrwydd Enghreifftiol ar gyfer Athrawon a Phenaethiaid.

 

9.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON 2016/2017 pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd  y Cynghorwyr L.D. Evans a G.O. Jones y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Cafodd y Bwrdd Gweithredol y Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2016/17 cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Ysgolion er mwyn i'w Corff Llywodraethu ei fabwysiadu. Mae'r polisi diwygiedig wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd gan y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2016. Byddai'r Polisi yn cael i gynnig i'r holl ysgolion ledled rhanbarth ERW. Nodwyd yr ymgynghorwyd ag undebau athrawon a'u bod wedi cytuno ar y Polisi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2016/17 cyn ei gyflwyno i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu.

10.

FERSIYNAU DIWYGIEDIG O'R POLISI RHEOLI STRAEN, Y POLISI YSMYGU A'R POLISI CAMDDEFNYDDIO ALCOHOL A SYLWEDDAU pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar fersiynau diwygiedig o'r Polisi Rheoli Straen, y Polisi Ysmygu a'r Polisi Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau. Nodwyd bod y polisïau hyn yn bolisïau iechyd a diogelwch hanesyddol a gafodd eu hadolygu'n ddiweddar. Dywedwyd wrth y bwrdd bod y polisïau wedi'u cwtogi a'u bod yn llawer haws eu defnyddio a'u bod yn cynnwys canllawiau fesul cam ac astudiaethau achos. Nodwyd bod y Polisi Rheoli Straen wedi cael ei ailenwi yn Bolisi Rheoli Iechyd Meddwl yn y Gweithle.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiynau diwygiedig o'r Polisi Rheoli Iechyd Meddwl yn y Gweithle, y Polisi Ysmygu a'r Polisi Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau.

11.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill, 2016 hyd at 31 Hydref, 2016 a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref, 2016.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,357k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,833k ar lefel adrannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1 dderbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb;

 

11.2  bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt.

12.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2016-17 pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2016/17, fel yr oedd ar 31 Hydref, 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am y prif amrywiannau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1 fod yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;

 

12.2  cymeradwyo'r trosglwyddiadau ariannol a amlinellwyd yn yr adroddiad.

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

14.

STRATEGAETH DERBYNIADAU CYFALAF 5 MLYNEDD (2015 - 2020) - ADRODDIAD CYNNYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 14 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am y cynigion o ran y Strategaeth Derbyniadau Cyfalaf 5 Mlynedd (2015-20) Adroddiad Cynnydd Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

15.1    bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

15.2      bod yr argymhellion, fel y'u nodwyd yn yr aroddiad, yn cael eu cymeradwyo.

15.

GWERTHU HEN GARTREF GOFAL PRESWYL TEGFAN, RHYDAMAN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 14 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adrodda ar werthu hen gartref gofal preswyl, Tegfan, Rhydaman.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr opsiwn a ffafrir ar gyfer gwerthu Tegfan, yr hen gartref gofal preswyl yn Rhydaman, yn cael ei bennu fel opsiwn 2, fel y nodir yn yr adroddiad.