Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi ystyried penodi aelodau i wasanaethu ar y Bwrdd Gweithredol a rhoddodd wybod i'r Cyngor am y penodiadau canlynol:-
Cynghorydd Portffolio
Mair Stephens - Dirprwy Arweinydd
Cefin Campbell - Cymunedau a Materion Gwledig
Glynog Davies - Addysg a Phlant
Hazel Evans - Yr Amgylchedd
Philip Hughes - Diogelu'r Cyhoedd
Peter Hughes Griffiths - Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
David Jenkins - Adnoddau
Jane Tremlett - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Rhoddodd fanylion am bortffolio Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ac esboniodd fod penodiad y Cynghorydd Linda Evans yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai i'w gadarnhau.