Mater - cyfarfodydd

AELODAETH PWYLLGORAU

Cyfarfod: 24/05/2017 - Cyngor Sir (eitem 11)

11 DERBYN ADRODDIAD ARWEINYDD Y CYNGOR YNGHYLCH PENODI CYNGHORWYR SY'N CAEL EU DEWIS I WASANAETHU AR Y BWRDD GWEITHREDOL pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi ystyried penodi aelodau i wasanaethu ar y Bwrdd Gweithredol a rhoddodd wybod i'r Cyngor am y penodiadau canlynol:-

Cynghorydd                                          Portffolio

Mair Stephens                   -         Dirprwy Arweinydd

Cefin Campbell                  -         Cymunedau a Materion Gwledig

Glynog Davies                   -         Addysg a Phlant

Hazel Evans                      -         Yr Amgylchedd

Philip Hughes                    -         Diogelu'r Cyhoedd

Peter Hughes Griffiths       -         Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

David Jenkins                    -         Adnoddau

Jane Tremlett                    -         Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Rhoddodd fanylion am bortffolio Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ac esboniodd fod penodiad y Cynghorydd Linda Evans yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai i'w gadarnhau.