ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2017/18
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cynigiwyd gan y Cynghorydd C. Campbell, ac eiliwyd gan y Cynghorydd L.M. Stephens a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ethol y Cynghorydd J.M. Charles yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2017/18.
Gwnaeth y Cynghorydd J.M. Charles ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd.
Mynegodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Gydymaith ar eu penodiad.
Cyflwynwyd Cadwyn y Swydd i gydymaith y Cadeirydd, Mrs Jean Jones, gan gydymaith y Cadeirydd Mrs Jean Morgan.