Mater - cyfarfodydd

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Cyfarfod: 24/05/2017 - Cyngor Sir (eitem 3)

CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd Eryl Morgan y Cadeirydd a oedd yn Ymddeol, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod.

 

Bu'r Cynghorydd Morgan yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd a diolchodd i bobl Sir Gaerfyrddin am estyn gwahoddiad iddo i nifer o ddigwyddiadau gan roi cyfle iddo, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, gael golwg unigryw ar yr hyn oedd yn digwydd yng nghymunedau'r Sir, a chymysgu â gwahanol gymdeithasau a mudiadau yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn sir mor gyfoethog ac mor amrywiol. Mynegodd ei ddiolch yn ddiffuant am yr holl gefnogaeth a gawsai ef a'i gydymaith drwy gydol yr hyn a ystyriai ef yn bersonol yn flwyddyn lwyddiannus iawn. Ychwanegodd y Cadeirydd oedd yn Ymddeol taw un o'i flaenoriaethau yn ystod y flwyddyn oedd codi arian at ei ddwy elusen enwebedig sef Hosbis T? Bryngwyn ac Offer Canser y Prostad yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli, a diolchodd i'r aelodau, i'r staff ac i bobl Sir Gaerfyrddin am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau hael. Diolchodd i'w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Irfon Jones, a'i Gydymaith Mrs Jean Jones, am eu cymorth a'u cwmni yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd oedd yn Ymddeol i Mr Mark James am ei gyngor a'i arweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr a staff yr Awdurdod oedd yn estyn cymorth i'r Cadeirydd, gan gyfeirio at yr Uned Gwasanaethau Democrataidd, ei yrrwr Jeff Jones ac yn benodol at Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, am drefnu ei ddigwyddiadau, ac am sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus bob amser.