LLAIN 1 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 16 Rhagfyr 2019, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar geisiadau gan ddatblygwr y safle uchod i
· ymestyn y cytundeb tir am gyfnod pellach o 12 mis;
· ystyried gostyngiad pellach yn y pris prynu i adlewyrchu costau annormal eithriadol annisgwyl;
· cynnwys darn pellach o dir o fewn ardal y brydles i fynd i'r afael â materion ecolegol sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL beidio ag ystyried y cais am ostwng y prisprynu.