13 BEICIO I'R GWAITH A BENTHYCIADAU I BRYNU CEIR PDF 122 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a roddai ddiweddariad yn dilyn adolygiad o gynllun presennol yr Awdurdod o ran Beicio i'r Gwaith a Benthyciadau i Brynu Ceir.
Roedd y Cynllun Beicio i'r Gwaith wedi'i sefydlu 11 mlynedd yn ôl a bernid ei fod wedi dyddio bellach. Roedd technoleg well yn y diwydiant beicio nid yn unig wedi arwain at gostau prynu uwch ar gyfer beiciau ffordd traddodiadol ond roedd yr opsiwn i brynu beiciau trydan newydd hefyd yn fwy deniadol.
Roedd y cynllun Benthyciadau i Brynu Ceir (Cymorth â Phrynu Car) wedi bod ar waith ers 1998. Roedd wedi'i gynnwys yn Amodau Gwasanaeth y Cyngor a byddai angen ymgynghori â'r Undebau Llafur cydnabyddedig ar unrhyw newid i'r cynllun presennol neu unrhyw fwriad i gael gwared arno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
13.1 cynyddu'r terfyn ar gyfer prynu beiciau ac ategolion o dan y Cynllun Beicio i'r Gwaith o £1,000 i £3,500;
13.2 ymestyn cyfnod y cytundeb o dan y Cynllun Beicio i'r Gwaith o'r 12 mis presennol i 24 mis ar gyfer pryniannau o fwy na £1,000;
13.3 oherwydd costau a chwyddiant cynyddol, bydd uchafswm y benthyciad ymlaen llaw o dan y cynllun benthyciadau i brynu ceir yn cynyddu o £7,350.00 i £9,999.00 o 1 Gorffennaf 2023.