Mater - cyfarfodydd

CORPORATE ASSET MANAGEMENT PLAN 2023-2028.

Cyfarfod: 22/05/2023 - Cabinet (eitem 12)

12 CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL 2023-2028 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol arfaethedig 2023-2028 a'i ddiben oedd dal ar lefel uchel oblygiadau asedau materion eiddo oedd gan wasanaethau a achoswyd gan wahanol ffactorau megis newidiadau mewn agendâu lleol a chenedlaethol, pwysau ariannol a newidiadau i anghenion cleientiaid. Lle bo'n briodol, roedd gofynion eiddo manwl amrywiol wasanaethau wedi eu cofnodi yng Nghynlluniau Rheoli Asedau y Gwasanaeth. Roedd y Cynllun hefyd yn rhoi trosolwg o bortffolio asedau'r Cyngor nad ydynt yn ymwneud â thai o ran costau rhedeg, cynaliadwyedd a phroblemau cynnal a chadw, gan arwain at gynllun gweithredu i gwmpasu'r cynlluniau o sylwedd sy'n gysylltiedig ag eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Crynodeb a Chynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2023-2028.