Mater - cyfarfodydd

POLICY ON AWARDING GRANTS AND THE WELSH LANGUAGE.

Cyfarfod: 22/05/2023 - Cabinet (eitem 11)

11 POLISI AR DDYFARNU GRANTIAU A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Polisi arfaethedig ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg i'r Cyngor er mwyn sicrhau cysondeb ar draws cynlluniau grant. Roedd y Polisi wedi cael ei baratoi er mwyn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011). Roedd hysbysiad cydymffurfio Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi bod yn rhaid iddo 'lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau' sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried pa effaith fydd dyfarnu grant yn ei chael ar 'gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg', a 'pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg'. Roedd y Polisi yn manylu ar ymrwymiad y Cyngor i roi Grantiau yn unol â'r Safonau ac yn esbonio'r ffordd y byddai'r Cyngor yn trosglwyddo'r dyletswyddau hyn i'r ymgeiswyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi arfaethedig ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg.