Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR.

Cyfarfod: 22/05/2023 - Cabinet (eitem 8)

8 ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2023, o ran 2022/2023.  Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6.159k ac yn rhagweld gorwariant o £470k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·       setliadau cyflog a drafodir yn genedlaethol (heb eu penderfynu hyd yn hyn) ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd, ac nid oedd y llywodraeth wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hyn;

·       gorwariant mewn meysydd gwasanaeth o achos galw cynyddol ynghyd â llai o gyllid grant o gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn enwedig yn y Gwasanaeth Anableddau Dysgu a Phlant;

·       gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol;

·       tanwariant cyllido cyfalaf oherwydd oedi o ran y cynllun a llai o angen i fenthyca.

 

Rhagwelwyd byddai tanwariant o £850k ar gyfer 2022/23 o ran y Cyfrif Refeniw Tai. Byddai hyn yn cael ei adolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 Derbyn adroddiad Monitro'r Gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

 

8.2 O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.