10 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM DROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL PDF 140 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol yn ymwneud â throsglwyddo asedau o ran parciau a meysydd chwarae gan dynnu sylw hefyd at y mynegiannau o ddiddordeb ychwanegol a gafwyd.
Dywedwyd bod dogfen Gweithdrefnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor hefyd wedi'i hadolygu'n ddiweddar a'i bod wedi'i diweddaru i ystyried yr heriau a wynebwyd hyd yma a'r gwersi a ddysgwyd wrth ymdrin â throsglwyddo asedau amrywiol dros y blynyddoedd. Byddai'r Gweithdrefnau newydd yn disodli fersiwn 2013-2016.
Nodwyd bod proses ymgynghori wedi'i chynnal gyda'r Cyngor Tref a Chymuned ddechrau'r flwyddyn gyda holiadur yn cael ei anfon at bob Cyngor yn gofyn am sylwadau yngl?n â'u profiadau hyd yma. Roedd eu sylwadau wedi cael eu cynnwys yn y ddogfen newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
10.1
|
nodi statws presennol trosglwyddo asedau o ran parciau a meysydd chwarae; |
10.2 |
bod y ddogfen Gweithdrefnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol sydd wedi'i diweddaru yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu |