Mater - cyfarfodydd

BUSINESS RATES - RETAIL, LEISURE AND HOSPITALITY RATES RELIEF SCHEME 2023/24

Cyfarfod: 27/03/2023 - Cabinet (eitem 9)

9 CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2023/24 pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr A. Davies, L.D. Evans, a P.M. Hughes, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac roeddent wedi ailadrodd eu datganiadau a gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar yr eitem hon.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am fabwysiadu cynllun rhyddhad ardrethi sydd ar gael i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24.  Roedd yr adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi 2023/24 ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i gynyddu’r gostyngiad i 100%. Roedd y cynllun hwn hefyd yn berthnasol yn 2021/22 ac yn ogystal â’r sector manwerthu cafodd ei ymestyn i gynnwys y sectorau hamdden a lletygarwch er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

 

Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai'n darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys yn 2023-24.

Fodd bynnag, ar gyfer 2023/24 byddai'r cynllun yn cynnig gostyngiad o 75% ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'i feddiannu.  Nodwyd y byddai'r cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys; fodd bynnag, byddai'r rhyddhad yn destun cap o ran y cyfanswm y gallai pob busnes ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad fyddai £110,000 ar gael ar draws pob eiddo sydd wedi ei feddiannu gan yr un busnes.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu’r mathau o fusnes yr oedd yn eu hystyried yn briodol ar gyfer y cynllun rhyddhad hwn, yn ogystal â’r rhai nad oeddent yn eu hystyried yn briodol.  Roedd y rhestr anghyflawn o fathau o fusnes wedi’i hatodi i’r adroddiad yn Atodiad A.

 

Dywedodd Aelodau'r Cabinet, ei bod yn briodol i’r cynllun gael ei fabwysiadu’n ffurfiol, gan mai mesur dros dro oedd hwn ac y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu’r rhyddhad drwy ad-dalu Awdurdodau Lleol sy’n defnyddio eu pwerau disgresiwn o dan Adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1

mabwysiadwyd y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2023/24

9..2

bod Rhyddhad yn cael ei roi, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru

9.3

bod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn penderfynu ynghylch unrhyw geisiadau nad ydynt o fewn cwmpas penodol y canllawiau neu y bydd angen rhoi ystyriaeth benodol iddynt.