CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU SIR GAERFYRDDIN (Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG YN FLAENOROL) YSGOL GWENLLIAN, CYDWELI
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn tanseilio'n sylweddol fuddiannau masnachol y Cyngor mewn trafodaethau am eiddo yn y dyfodol.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynnig i brynu tir a throsglwyddo arian yn y rhaglen gyfalaf i fwrw ymlaen ag ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i Ysgol Gwenllian, Cydweli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 |
bwrw ymlaen â phrynu tir i gefnogi datblygu ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon i Ysgol Gwenllian, Cydweli;
|
9.2 |
Bod trosglwyddiad yn y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo er mwyn caniatáu i'r pryniant gael ei gwblhau cyn gynted â phosib. |