Mater - cyfarfodydd

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD FKJ YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cyfarfod: 15/03/2023 - Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. (eitem 4)

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD J.E. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd.Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd ynghylch penderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod rhoi cludiant am ddim i J.E. i ysgol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol o 3 milltir o'r cyfeiriad cartref, ac felly nid oedd yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ym mholisi'r Cyngor ar gyfer darparu cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau unigol yr achos, ynghyd â sylwadau'r swyddogion adrannol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, bod yr apêl gan J.E. am drafnidiaeth ysgol yn cael ei gwrthod ar y sail bod yr ysgol o fewn y pellter statudol cerdded.


Cyfarfod: 15/02/2023 - Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. (eitem 4.)

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD J.E. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Dogfennau ychwanegol: