Mater - cyfarfodydd

FINAL HEARING IN RELATION TO A REPORT ISSUED BY THE PUBLIC SERVICES OMBUDSMAN FOR WALES IN RESPECT OF COUNCILLOR TERRY DAVIES.

Cyfarfod: 12/04/2023 - Pwyllgor Safonau (eitem 3.)

3. GWRANDAWIAD TERFYNOL MEWN PERTHYNAS Â'R ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN YR OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS Â'R CYNGHORYDDD TERRY DAVIES pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:


Cyfarfod: 14/02/2023 - Pwyllgor Safonau (eitem 3)

3 GWRANDAWIAD TERFYNOL MEWN PERTHYNAS Â'R ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN YR OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS Â'R CYNGHORYDDD TERRY DAVIES pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd T. Davies a'i gynrychiolydd Mr D. Daycock i'r cyfarfod, ynghyd â Mrs K. Shaw a Ms S. Jones o Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Awst 2022, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn manylu ar ganlyniadau ei ymchwiliad i honiadau bod y Cynghorydd Davies wedi torri Côd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cyngor Tref Llanelli, drwy ymddwyn yn amhriodol wrth ryngweithio ag aelodau eraill ar 09 Chwefror 2021.  Daeth ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r casgliad fod yna dystiolaeth i awgrymu bod y Cynghorydd Davies wedi methu â chydymffurfio â'r darpariaethau canlynol o'r Côd Ymddygiad:

 

·       4(a) –  Rhaid i chi gyflawni eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i'r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb, heb ystyried rhywedd, hil, anabledd, tueddfryd rhywiol, oedran  neu grefydd.

 

  • 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.

 

·       4(c) – Rhaid i chi beidio â defnyddio ymddygiad bwlio neu aflonyddu ar berson arall.

 

·       6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid ystyried yn rhesymol ei fod yn dwyn anfri ar eich swyddfa nac ar eich awdurdod.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw'r Pwyllgor at Weithdrefn Gwrandawiadau'r Pwyllgor Safonau a nodwyd yn Atodiad 2 o ddogfennaeth y cyfarfod a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor benderfynu ar ganfyddiadau ffaith ac a oedd ymddygiad y Cynghorydd Davies yn torri'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Gyngor Tref Llanelli, fel yr awgrymwyd yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro dylai'r Pwyllgor gwneud ei benderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd gerbron y Pwyllgor ar ffurf cyfrifon tystion ysgrifenedig a llafar, ynghyd â'r cyflwyniadau cyfreithiol a gafodd eu cyflwyno i'r Pwyllgor a'u nodi o fewn dogfennaeth y cyfarfod.  Fel y cadarnhawyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau (Adolygiad Rhagwrandawiad) a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2022, rhestrwyd y ffeithiau diddadl ym mharagraffau 46-55 o adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a nodwyd y ffeithiau oedd yn cael eu herio ym mharagraffau 56-61.

 

Galwodd Ms K Shaw, Cynrychiolydd yr Ombwdsmon, ar bedwar tyst i ddarparu tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor i gefnogi ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cadarnhaodd pob tyst i Gynrychiolydd yr Ombwdsmon fod eu datganiadau ysgrifenedig, fel y'u nodir yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn rhoi cyfrif gwir a chywir o'r digwyddiadau ar 09 Chwefror 2021. Wedyn, rhoddwyd cyfle i bob parti ofyn cwestiynau pellach i'r tystion am eu tystiolaeth.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, rhoddwyd cyfle i Mr Daycock hefyd ofyn cwestiynau i Ms Jones, Swyddog Ymchwilio'r Ombwdsmon, mewn perthynas â chynnal yr ymchwiliad yng ngoleuni salwch y Cynghorydd Davies a'i amgylchiadau personol ar adeg ei gyfweliad gyda hi.

 

Yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni, gwahoddwyd Mr Daycock gan y Cadeirydd i gyflwyno unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r Cynghorydd Davies. Yn hyn o beth, rhoddodd y Cynghorydd Davies dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei ddatganiad ysgrifenedig a nodir yn Atodiad 3 o ddogfennaeth y cyfarfod.  Cyflwynodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3