10 CYLLIDEB PARTNERIAETH 2022 -2023 PDF 404 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod y Cytundeb Cyfreithiol mewn perthynas â sefydlu Consortiwm Addysg Rhanbarthol Partneriaeth yn darparu'r mater canlynol a gadwyd yn ôl i bob un o'i awdurdodau cyfansoddol "Cymeradwyo Cyllideb Flynyddol gyntaf Partneriaeth ac unrhyw Gyllideb Flynyddol ddilynol a fyddai y tu hwnt i gwmpas yr awdurdod a ddirprwyir i'r Cyd-bwyllgor yn ei gylch gorchwyl"
Yn unol â'r gofyniad hwnnw, bu'r Cabinet yn ystyried gyllideb flynyddol gyntaf Partneriaeth, fel y'i cymeradwywyd gan Gyd-bwyllgor Partneriaeth ar 29 Ebrill 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
10.1 |
Nodi'r rhagdybiaethau a'r amcangyfrifon a wnaed wrth lunio'r Gyllideb Flynyddol Gyntaf ar gyfer 2022-23 a chymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol gyntaf ar gyfer Consortiwm Addysg Rhanbarthol Partneriaeth, gan gynnwys cyfraniadau pob Cyngor, a gyfrifwyd yn unol â thelerau'r cytundeb cyfreithiol; |
10.2 |
Nodi bod y Cyd-bwyllgor wedi penderfynu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2022 bod Prif Swyddog Cyllid Arweiniol Partneriaeth (Swyddog Adran 151 y Cyngor Arweiniol sy'n gyfrifol am gyllid) wedi'i awdurdodi i wneud gwelliannau i'r Gyllideb Flynyddol gyntaf ar gyfer 2022-23 wrth i ragdybiaethau ac amcangyfrifon gael eu cadarnhau a bod y sefyllfa honno'n cael ei chymeradwyo. |