6 STRATEGAETH GORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2022-27 PDF 111 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor, oedd yn cynnwys amcanion llesiant y Cyngor a phennu cyfeiriad teithio a blaenoriaethau ar gyfer y sefydliad dros gyfnod y weinyddiaeth bresennol, gan hefyd gyflawni fframwaith gweledigaeth ac ymrwymiadau'r Cyngor yn ystod y cyfnod. Byddai'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar nifer llai o amcanion ar sail poblogaeth wrth nodi'r blaenoriaethau thematig, blaenoriaethau gwasanaethau a galluogwyr busnes craidd y byddai'r Cyngor yn ceisio gwneud cynnydd yn eu cylch yn ystod y cyfnod hwnnw.
Nodwyd mai dyma oedd amcanion llesiant arfaethedig newydd y Cyngor:-
1. Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
2. Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
3. Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)
4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon (Ein Cyngor)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR gymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor.