7 STRATEGAETH DRAWSNEWID Y CYNGOR PDF 125 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried y Strategaeth Drawsnewid arfaethedig oedd â'r nod o ddarparu fframwaith strategol i fod yn sail i raglen o newid sefydliadol sylweddol i gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei nodau a'i amcanion ehangach, fel y nodir yn y Strategaeth Gorfforaethol (Gweler Cofnod 5 uchod). Y nod hefyd oedd cyflymu'r broses foderneiddio ar draws y Cyngor ymhellach, gan ei ganiatáu i barhau i ddarparu gwasanaethau cost effeithiol o ansawdd uchel o fewn cyd-destun amgylchedd allanol heriol.
Nodwyd bod y Strategaeth yn cynnwys yr 8 blaenoriaeth thematig ganlynol:-
· Y gweithlu,
· Y gweithle,
· Arbedion effeithlonrwydd a gwerth am arian
· Incwm a masnacheiddio
· Dylunio a gwella gwasanaethau
· Digidol a chwsmeriaid
· Datgarboneiddio
· Ysgolion
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth Drawsnewid.