Mater - cyfarfodydd

HIGHWAY ASSET MANAGEMENT PLAN - MAINTENANCE MANUAL PARTS 4.5, 4.6 & 4.7

Cyfarfod: 13/02/2023 - Cabinet (eitem 9)

9 LLAWLYFR CYNNAL A CHADW Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD - RHANNAU 4.5, 4.6 A 4.7 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu rhannau 4.5-4.7 o Lawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Er bod y cynllun wedi'i fabwysiadu gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor ym mis Gorffennaf 2018, rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod y llawlyfr cynnal a chadw, yr oedd rhan 4 yn rhan ohono, yn cael ei ddatblygu fel portffolio o lawlyfrau penodol ynghylch rheoli amrywiaeth o asedau priffyrdd. Yn unol â hynny, roedd Rhannau 4.1- 4.4 o'r llawlyfr wedi'u mabwysiadu yn 2021, a byddai adrannau 4.5 – 4.7, pe bai'n cael eu mabwysiadu, yn rhoi sylw i'r agweddau a nodir isod, gydag adrannau pellach yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd i ddod:-

 

Rhan 4.5 - Rheoli Draenio Priffyrdd

Rhan 4.6 - Rheoli Geotechnegol

Rhan 4.7 - Ymateb Brys ar y Priffyrdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Rhannau 4.5, 4.6 a 4.7 o Lawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael eu mabwysiadu.