7 DERBYNIADAU YSGOLION - ADOLYGIAD DERBYNIADAU YSGOLION CYNRADD (CODI 4) PDF 118 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar adolygiad a wnaed o bolisi derbyniadau presennol y Cyngor ar gyfer addysg amser llawn i blant pedair oed (plant sy'n codi'n 4 oed), fel yr argymhellwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 2018/19.
Nododd y Cabinet fod yr adroddiad yn amlinellu'r adolygiad a gynhaliwyd ar y trefniadau derbyn a oedd yn ystyried yr agweddau canlynol:
· Cefndir y trefniadau presennol ar gyfer ysgolion cynradd, a'r polisi 'plant sy'n codi'n 4 oed' yn benodol.
· Manylion am y trefniadau derbyn amser llawn a rhan amser presennol ar gyfer ysgolion cynradd.
· Darparu cymhariaeth o'r trefniadau derbyn amser llawn a rhan-amser â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru yn seiliedig ar ymchwil
· Gwybodaeth am bwysigrwydd Niferoedd Derbyn a sut maent yn effeithio ar drefniadau derbyn.
· Amlinellu'r heriau presennol sy'n cael eu hwynebu o ran lle a chapasiti ysgolion, anghysondeb ag Awdurdodau eraill, meithrinfa a darpariaeth blynyddoedd cynnar, cyllid a'r broses dderbyn ei hun.
Roedd yr Adroddiad hefyd yn ystyried goblygiadau posibl unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol o ran canfyddiad rhieni, darpariaeth gytbwys, ailddosbarthu cyllid a threfniadau ymgynghori.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor, fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir, yn:
7.1 |
Ymgynghori ar newid i drefniadau derbyn amser llawn ar gyfer dysgwyr yn ystod tymor eu pen-blwydd yn 4 oed i'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed yn ystod yr ymarfer ymgynghori blynyddol ynghylch derbyniadau ym mis Ionawr 2023, i'w roi ar waith o bosibl ym mis Medi 2024. |
7.2 |
Cynnal asesiad manwl ar effaith y newid mewn polisi ar bob ysgol a chyflwyno argymhelliad ar gyfer pob lleoliad. |
7.3 |
Adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. |
7.4 |
Ymgysylltu ag ysgolion cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir ac ysgolion cynradd Catholig Rhufeinig ar yr ymgynghoriad a'r newid arfaethedig i'r polisi. |