5 CYMERADWYO STRATEGAETH DEMENTIA PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU PDF 118 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. James a H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Roedd y strategaeth ranbarthol hon wedi'i llunio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y trydydd sector yn ogystal â phobl â dementia, eu gofalwyr, ac aelodau o'r teulu ledled Cymru.
Roedd yr adroddiad yn cefnogi sawl amcan allweddol yn y Cynllun Corfforaethol, a'r Amcan Llesiant i gefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny. Byddai cymeradwyo'r Strategaeth yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu yn unol ag anghenion y gymuned.
Roedd yr adroddiad yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin gymeradwyo'r strategaeth a oedd yn mynd drwy'r broses ddemocrataidd yng Ngheredigion a Sir Benfro ar yr un pryd. Roedd eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd.
Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-
· Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod rhai elfennau o'r strategaeth eisoes yn cael eu cyflawni ond bod angen nodi'r gwasanaethau sydd ar gael ac unrhyw fylchau gyda'r bwriad o ddatblygu mentrau newydd, mwy di-dor;
· Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, mewn ymateb i gwestiwn, y byddai'r strategaeth yn ymdrechu i sicrhau mynediad teg i wasanaethau sy'n gysylltiedig â dementia ar draws y sir.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET fod Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cael ei chymeradwyo.