7 ADOLYGIAD O FLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020-2023 PDF 157 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd wedi'i atodi i Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cyngor Sir Caerfyrddin 2020-23 i'w ystyried. Amlinellodd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y cynnydd yr oedd y Cyngor yn ei wneud wrth gyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol gan gyfeirio at y Ddeddf.Mae'r Cynllun yn ymdrin â'r cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2022.
Er mwyn cyflwyno tystiolaeth o'r ddyletswydd hon, o dan y Ddeddf Amgylchedd, roedd dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i baratoi a chyflawni ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 sy'n cael ei rhoi arni gan y Ddeddf hon. Mae'r cynllun yn cwmpasu cyfnod o dair blynedd. Yn ogystal, mae'n ofyniad statudol bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn adrodd ar ddarpariaeth ei Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd i Lywodraeth Cymru bob tair blynedd ac mae'r adroddiad nesaf i'w gyflwyno erbyn mis Rhagfyr 2022.
Nododd yr Aelodau fod dull Sir Gaerfyrddin o ddatblygu a chyflawni ei Flaen-gynllun wedi cynnwys ymgysylltu â swyddogion i edrych ar eu harferion gwaith, eu cynlluniau a'u prosiectau tra'n eu cynorthwyo i nodi cyfleoedd presennol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, ochr yn ochr â chyflawni eu rhwymedigaethau a'u hamcanion eraill.
Pwysleisiodd yr adroddiad fod y camau a nodwyd yn y Blaengynllun yn gysylltiedig ag Amcanion Llesiant y Cyngor a nodwyd dyddiadau targed ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu a nodwyd y swyddi a oedd yn gyfrifol.
Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
·
Cyfeiriwyd at y golofn
'Erbyn Pryd neu Darged Diwedd y Flwyddyn'. Codwyd
sylw ynghylch yr adrodd anghyson o ran y targedau
gweithredu. Doedd gan rai ddim targedau,
roedd gan eraill ddyddiadau yn y gorffennol ac roedd rhai'n parhau
ar waith, codwyd y byddai eglurder pellach o ran targedau yn
fuddiol wrth symud ymlaen. Roedd
Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol wrth egluro'r disgrifiad o'r
targedau, yn cydnabod y byddai'n fuddiol i'r targedau fod yn fwy
disgrifiadol er mwyn rhoi gwell eglurder a dealltwriaeth i'r
darllenydd. Yn ogystal, rhoddodd y
Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad ddiweddariad ar lafar ar y cynnydd a
wnaed mewn perthynas ag adran 3 o'r cynllun.
· Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y broses o roi coed newydd yn lle'r coed ynn sydd wedi'u gwaredu o ganlyniad i Glefyd Coed Ynn, eglurodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad fod plannu coed newydd yn rhan annatod o gynllun Clefyd Coed Ynn gan nodi bod 200+ o goed newydd wedi'u plannu dros y 2 aeaf diwethaf ger Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, a bydd rhagor o yn cael eu plannu dros y gaeaf hwn. Yn ogystal, nodwyd bod 3 safle wedi'u nodi ar gyfer plannu'r gaeaf hwn o ran eiddo a oedd wedi cael ei osod yn flynyddol ar gyfer pori, gyda grantiau Creu Coetiroedd Glastir gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd bod y grantiau hyn wedi cymryd 2 flynedd i'w cytuno ac yn hynny o beth roedd rhaglen o geisiadau grant ar waith yn dilyn nodi tir addas heb unrhyw werth bioamrywiaeth presennol ar gyfer plannu coed ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7