8 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 2021/22 PDF 129 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2021/22. Paratowyd yr adroddiad hwn er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n nodi bod yn rhaid i bob Pwyllgor Craffu baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn cynnig trosolwg o waith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22 ac yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y canlynol:-
• Trosolwg o'r blaengynllun gwaith
• Y materion allweddol a ystyriwyd
• Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu Eraill, neu ganddynt
• Adolygiad Gorchwyl a Gorffen
• Sesiynau Datblygu
• Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.