4 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 PDF 127 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd M. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu heriau blwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen oherwydd Covid-19 ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny oedd i gael eu datblygu yn y flwyddyn gyfredol.
Roedd yn ofynnol yn statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.
Nodwyd mai adroddiad drafft oedd hwn o hyd a bydd yn cael ei ddiwygio ymhellach cyn ei gwblhau.
Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-
· Cytunodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i gadarnhau'r sefyllfa bresennol o ran y Grant Cymorth Tai;
· Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y ffigwr o 57% o ran y rhai oedd wedi dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau oedd yn bwysig iddynt, yn eithaf cyson â'r blynyddoedd blaenorol;
· Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymateb i ymholiad, y byddai'r Fframwaith Gofal Cartref newydd, gobeithio, yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cartref mewn ardaloedd gwledig a oedd wedi'u gwaethygu gan brinder gweithlu;
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd y gyfradd gyflog o £13 yr awr ar gyfer gweithwyr gofal cartref mewnol yn deg o ran eu cyfrifoldebau, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol er bod cyfraddau cyflogau ac amodau gwasanaeth wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin, fod lle i wneud cynnydd.
· Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod darparu gofal ymataliaeth dros nos i bobl a oedd yn gaeth i'r gwely yn heriol a bod yn rhaid edrych ar bob achos yn unigol gan ddefnyddio arbenigedd y nyrs ymataliaeth;
· Mewn ymateb i sylw a wnaed am yr angen i gynyddu nifer y staff gofal sy'n gallu sgwrsio yn Gymraeg, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg mewn Gofal Cymdeithasol a Thai y mae'n gadeirydd arno. Cynhaliwyd sesiwn gweithdy yn ddiweddar i adnewyddu ei strategaeth ac roedd cynllun gweithredu'n cael ei lunio ar hyn o bryd. Cytunodd i roi manylion am ganran y staff sy'n gallu siarad Cymraeg a phwysleisiodd y gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaeth bob amser am eu dewis iaith. Roedd darpariaeth hefyd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth â nam ar eu clyw.
PENDERFYNWYD
4.1 ARGYMELL I'R CABINET fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
4.2 bod Cadeirydd y Pwyllgor yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn ailadrodd pwysigrwydd cryfhau'r strwythurau sydd ar waith o ran plant sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref.