7 DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2022/23 PDF 103 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.
Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £56,590k o gymharu â chyllideb net weithredol o £92,515k gan roi -£35,925k o amrywiant.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth, 2022 a llithriad o 2021/22. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyoa'r dyfarniadau grant newydd a gafwyd yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.
Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1 |
bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn. |
7.2 |
bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno. |