Mater - cyfarfodydd

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM RAGLEN GYFALAF 2022/23

Cyfarfod: 09/01/2023 - Cabinet (eitem 8)

8 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM RAGLEN GYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 31 Hydref 2022 gan fanylu ar y prosiectau a throsglwyddiadau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £64,369k o gymharu â chyllideb net weithredol o £148,334k gan roi -£83,965k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth 2022 a llithriad o 2021/22. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo a dyfarniadau grant a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.

 

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1     fod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;

8.2.     bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.