Mater - cyfarfodydd

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES

Cyfarfod: 28/09/2022 - Cyngor Sir (eitem 11)

11 RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES pdf eicon PDF 67 KB

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, bwyd, yn ogystal ag ymdopi â'r diffyg trafnidiaeth i'r ysgol.

Hefyd, bod y Cyngor hwn yn gofyn yn barchus i Gabinet y Cyngor adfer y Panel Ymgynghorol Cludiant i'r Ysgol sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael ei gefnogi gan yr holl bersonél perthnasol i ymchwilio i'r holl opsiynau a allai helpu'r teuluoedd hyn”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae'r argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, bwyd, yn ogystal ag ymdopi â'r diffyg trafnidiaeth i'r ysgol.

Hefyd, bod y Cyngor hwn yn gofyn yn barchus i Gabinet y Cyngor adfer y Panel Ymgynghorol Cludiant i'r Ysgol sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael eu cefnogi gan yr holl bersonél perthnasol i ymchwilio i'r holl opsiynau a allai helpu'r teuluoedd hyn.”

Eiliwyd y cynnig.

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd Edward Thomas a chafodd ei eilio:

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae'r argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, a bwyd.

Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i'r Panel Ymgynghorol trawsbleidiol ynghylch Trechu Tlodi, sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael cefnogaeth gan yr holl bersonél perthnasol, ystyried costau trafnidiaeth ysgol fel rhan o'i Flaengynllun Gwaith.

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr a'r costau sy'n deillio ohono, a bod y Cabinet yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru'n gofyn am eglurder ynghylch pryd y bydd yr adolygiad terfynol yn cael ei gyhoeddi.

Mae'r Cyngor yn nodi bod Datganiad Gweledigaeth y Cabinet eisoes wedi galw ar y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi i adolygu eu cylch gorchwyl er mwyn sicrhau bod ganddynt y cwmpas angenrheidiol i gynnal adolygiad o'r gwaith sy'n ofynnol mewn perthynas â Threchu Tlodi ac mae eisoes wedi gofyn i'r panel ddechrau ar unwaith ar faes gwaith ychwanegol mewn perthynas â'r argyfwng costau byw presennol.

Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.

Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r Gwelliant yn cael ei dderbyn, y gwelliant fyddai'r cynnig terfynol.

Yn dilyn pleidlais

PENDERFYNWYD bod y Cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei gefnogi.

Cyfarfod: 14/09/2022 - Cyngor Sir (eitem 12.2)