Mater - cyfarfodydd

QUESTION

Cyfarfod: 28/09/2022 - Cyngor Sir (eitem 13)

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD GARETH JOHN, YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO, HAMDDEN, DIWYLLIANT A THWRISTIAETH

“Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn derbyn £38.6m dros y 3 blynedd nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi rhanbarthol lefel uchel wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A allai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi gwybod i ni am y canlynol:

1. Y broses ar gyfer cytuno pa brosiectau lleol fydd yn mynd ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ar draws Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau a gymeradwyir.

3. A oes mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu llyncu gan y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r mesurau diogelu hyn.

4. Pa mor barod yw prosiectau arfaethedig y mae'n amlwg y bydd angen iddynt fwrw iddi’n syth er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o wariant a’r canlyniadau gorau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1.

5. Pa un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod prosiectau a gymeradwyir yn annhebygol o ddechrau tan ddiwedd 2022 ar y cynharaf.” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 “Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn cael £38.6 miliwn dros y 3 blynedd nesaf trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol lefel uchel wedi cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A oes modd i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi cyngor ynghylch y canlynol?

1. Y broses ar gyfer cytuno ynghylch pa brosiectau lleol fydd yn symud ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau cymeradwy.

3. P'un a oes trefniadau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu cynnwys yn y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r trefniadau diogelu hyn.

4. Sefyllfa prosiectau arfaethedig o ran bod yn barod, ac yn amlwg bydd angen iddynt fwrw iddi ar unwaith er mwyn manteisio'n llawn ar y gwariant a'r canlyniadau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1. 5. P'un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod y prosiectau a gymeradwywyd yn annhebygol o ddechrau tan o leiaf ddiwedd 2022.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Gareth John - yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:-

“Diolch am y cwestiwn a hefyd am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ac i'r cyhoedd ehangach ynghylch y sefyllfa bresennol o ran cynlluniau Sir Gaerfyrddin i gael y budd mwyaf posibl o'r manteision a'r cyfleoedd a roddwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r Cynghorydd Palfreman wedi bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod ein sesiynau briffio un ag un rheolaidd, a bydd hyn yn parhau i ddigwydd. Gan obeithio bod y Cynghorydd Palfreman yn teimlo bod y rhain yn fuddiol ac yn gynhyrchiol iawn. Yng Nghymru bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu trwy 4 rhanbarth a bydd y llywodraeth leol yn gyfrifol am ddatblygu cynllun buddsoddi strategol rhanbarthol lefel uchel ac yna'i gyflawni. Felly, o ran y cwestiwn:  

 

1. Er y cytunwyd y bydd Cyngor Abertawe yn gwasanaethu fel yr Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer gweinyddu'r dyraniad o £138 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer y rhanbarth, gwneir penderfyniadau ar lefel leol, gyda phob Awdurdod Lleol yn cadw at eu trefniadau a'u protocolau cyfansoddiadol eu hunain. Cadarnhawyd mai dyraniad Sir Gaerfyrddin yw £38.6 miliwn, sy'n cynnwys £32 miliwn o gyllid craidd a £6.6 miliwn ar gyfer y rhaglen sgiliau Multiply. Mae disgwyl i gynigion prosiect gael eu cymryd i Bartneriaethau Adfywio lleol (sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector) ym mhob Awdurdod Lleol i'w cymeradwyo cyn cael cymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Bartneriaeth hon eisoes wedi'i sefydlu ac wedi cwrdd ddwywaith, ac mae'n cynnwys rhanddeiliaid lleol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cytunwyd i sefydlu 3 is-gr?p thematig sy'n canolbwyntio ar gymunedau a lle, gan gefnogi busnes a phobl a sgiliau. I  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13


Cyfarfod: 14/09/2022 - Cyngor Sir (eitem 14.4)

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD GARETH JOHN, YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO, HAMDDEN, DIWYLLIANT A THWRISTIAETH

Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn derbyn £38.6m dros y 3 blynedd nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi rhanbarthol lefel uchel wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A allai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi gwybod i ni am y canlynol:

1. Y broses ar gyfer cytuno pa brosiectau lleol fydd yn mynd ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ar draws Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau a gymeradwyir.

3. A oes mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu llyncu gan y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r mesurau diogelu hyn.

4. Pa mor barod yw prosiectau arfaethedig y mae'n amlwg y bydd angen iddynt fwrw iddi’n syth er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o wariant a’r canlyniadau gorau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1.

5. Pa un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod prosiectau a gymeradwyir yn annhebygol o ddechrau tan ddiwedd 2022 ar y cynharaf. 

Dogfennau ychwanegol: