CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH
“Hoffwn wybod gan yr aelod Cabinet pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i drwsio'r bont droed rhwng Golwg yr Aman a Pharc Cwmaman. Mae'n 26 oed ac yn rhydu ac mae angen ail-baentio a glanhau ar frys cyn iddo ddirywio a bydd angen codi pont newydd”.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
“Hoffwn wybod gan yr aelod Cabinet pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i atgyweirio'r bont droed rhwng Golwg yr Aman a Pharc Cwmaman? Mae'n 26 oed ac yn rhydu'n druenus ac mae angen ei hailbaentio a'i glanhau ar frys cyn iddi rhydu'n waeth a bod angen un newydd yn ei lle”.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-
Diolch i chi, Gynghorydd Madge, am eich cwestiwn. Byddwch yn ymwybodol wrth gwrs, o ail hanner y 2000au ymlaen, mae'r cyllidebau sydd wedi bod ar gael ar gyfer cynnal a chynnal ein hasedau o ran pontydd a strwythurau wedi'u defnyddio llawer ac wedi'u blaenoriaethu o ran gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau bod ein rhwydwaith priffyrdd yn parhau i fod yn weithredol ac mewn cyflwr addas i'w ddefnyddio. Yn hyn o beth mae ein hasedau'n cynnwys tua 800 o bontydd a 1073 o strwythurau eraill.
Cynhelir y math arferol o weithgareddau megis paentio ac ymyriadau eraill ar raddfa gymharol lai pan nodir yr angen, a rhoddir ystyriaeth i flaenoriaethau ehangach, o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.
Yn achos y bont droed benodol hon sy'n cysylltu Parc Cwmaman a Pharc Golwg yr Aman, cafwyd trafodaethau cadarnhaol iawn rhwng swyddogion y Cyngor hwn a'r Cyngor Tref fel rhan o'r trefniadau cyffredinol o ran trosglwyddo asedau o ran y parciau.
Fodd bynnag, mae'n amlwg bellach y bydd y Cyngor Sir yn dal i fod yn berchen ar strwythur y bont droed. Ar wahân i hyn, ac yn ysbryd y trafodaethau cadarnhaol a gynhaliwyd hyd yma â'r Cyngor Tref, bydd anghenion cynnal a chadw'r bont droed bellach yn cael eu hadolygu ac asesir faint o ailbaentio y gallai fod angen ei wneud, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd fel y bo'n briodol.
Bydd archwiliad gweledol o'r bont yn cael ei gynnal gan swyddogion yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn canfod yr hyn y bydd ei angen o bosibl. Byddaf yn fwy na pharod i gael trafodaeth bellach â chi, Gynghorydd Madge, a hyd yn oed ymweld â'r safle os oes angen pan fydd canlyniad yr archwiliad yn hysbys.”
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH
“Hoffwn wybod gan yr aelod Cabinet pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i drwsio'r bont droed rhwng Golwg yr Aman a Pharc Cwmaman. Mae'n 26 oed ac yn rhydu ac mae angen ail-baentio a glanhau ar frys cyn iddo ddirywio a bydd angen codi pont newydd”.
Dogfennau ychwanegol: