Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn unol â gofynion Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniad adolygiad ynghylch penodi aelodau i wasanaethu ar banelau ymgynghorol y Cyngor a chyrff allanol sy'n amodol ar y gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol, a hynny ar ôl cael gwybod gan y Cynghorwyr Sharen Davies, Jason Hart a Louvain Roberts eu bod wedi ymuno â'r Gr?p Annibynnol.
Cadarnhaodd Arweinydd y Gr?p Llafur y byddai'r Cynghorydd Rob Evans yn ildio'i sedd ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,
6.1 bod dyraniad y seddi ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei newid fel a ganlyn:-
Plaid Cymru (3) Llafur (1) Annibynnol (1);
6.2 bod dyraniad y seddi ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad y Cyngor (10) yn cael ei newid fel a ganlyn:-
Plaid Cymru (5) Llafur (3) Annibynnol (2);
6.3 cymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth fel y manylir yn yr adroddiad/yr adroddwyd yn y cyfarfod o ganlyniad i argymhellion 6.1 a 6.2 uchod;
6.4 nodi nad oes angen gwneud newidiadau mewn cydbwysedd gwleidyddol i nifer a dyraniad y seddi ar gyfer y canlynol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Phanel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâl.
Dogfennau ychwanegol: