Mater - cyfarfodydd

STREET NAMING AND NUMBERING POLICY

Cyfarfod: 28/09/2022 - Cyngor Sir (eitem 9)

9 POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022 (gweler cofnod 8), wedi ystyried Fersiwn Drafft o Bolisi Enwi Strydoedd ac Eiddo. Roedd y polisi wedi darparu fframwaith er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin weithredu'r swyddogaeth Enwi a Rhifo Strydoedd yn effeithiol ac yn effeithlon er budd trigolion Sir Gaerfyrddin, y gwasanaethau brys, busnesau ac ymwelwyr â'r sir. Yn ogystal, roedd yn sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu'r pwerau a'r dyletswyddau deddfwriaethol perthnasol hynny, gan gynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ac Adrannau 17 i 19 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (1925).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:

 

“9.1.1 cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo am gyfnod o 28 diwrnod o ymgynghori cyhoeddus;

 

9.1.2 bod unrhyw sylwadau a dderbynnir i'r ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion swyddogion, yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w trafod.” 


Cyfarfod: 14/09/2022 - Cyngor Sir (eitem 10.1)

10.1 POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol: