Mater - cyfarfodydd

ORIEL MYRDDIN

Cyfarfod: 25/07/2022 - Cabinet (eitem 12)

12 PROSIECT CYFALAF ORIEL MYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Prif Weithredwr, W. Walters, y cyfarfod yn dilyn datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).   Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor yn y broses gaffael a bod yn niweidiol mewn modd annheg i'r contractwr a ffefrir yn y farchnad ehangach.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ddatblygu Oriel Myrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad er mwyn cefnogi datblygu Oriel Myrddin.