Mater - cyfarfodydd

CARMARTHENSHIRE NATIONAL URDD EISTEDDFOD 2023

Cyfarfod: 25/07/2022 - Cabinet (eitem 6)

6 EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD SIR GAERFYRDDIN 2023 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'w chynnal yn Sir Gaerfyrddin yn 2023.  Nodwyd bod y digwyddiad wedi ei ohirio yn 2021 o ganlyniad i bandemig coronafeirws. 

 

Cydnabu'r Cabinet y buddion a fyddai'n deillio o'r Eisteddfod o ran llesiant economaidd Sir Gaerfyrddin, a'r cyfraniad at ddatblygiad y Gymraeg yn y sir a oedd yn adlewyrchu'r ymrwymiad i gefnogi'r dyhead o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Yn hyn o beth, cyfeiriwyd at Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdod a gymeradwywyd yn y ddiweddar gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a oedd yn nodi sut y byddai'r Cyngor yn datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg yn ei ysgolion yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

 

Nododd y Cabinet y cais a wnaed gan yr Urdd am gymorth ychwanegol posibl i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei reoli'n llwyddiannus yn sgil y newidiadau a wnaed yn dilyn pandemig coronafeirws.  Yn hyn o beth, cafodd goblygiadau staffio'r Awdurdod eu hystyried gan y Cabinet.  Cyfeiriwyd at Gytundeb Lefel Gwasanaeth a fyddai'n cael ei lunio rhwng yr Awdurdod a'r Urdd i sicrhau bod y profiad gorau posibl yn cael ei roi i'r plant, y bobl ifanc, a thrigolion y sir yn ystod y cyfnod paratoi 12 mis ac yn ystod wythnos y digwyddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1

Bod cymorth ariannol yn cael ei roi i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr 2023, gan roi cyfraniad ariannol o £80,000 i Eisteddfod yr Urdd;

 

6.2.

Rhoi cymorth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn unol â'r gwasanaethau a nodir yn yr adroddiad;

6.3

Penodi'r Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau i arwain y prosiect, gan gyflwyno adroddiadau chwarterol i'r Cabinet.