6 EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD SIR GAERFYRDDIN 2023 PDF 121 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'w chynnal yn Sir Gaerfyrddin yn 2023. Nodwyd bod y digwyddiad wedi ei ohirio yn 2021 o ganlyniad i bandemig coronafeirws.
Cydnabu'r Cabinet y buddion a fyddai'n deillio o'r Eisteddfod o ran llesiant economaidd Sir Gaerfyrddin, a'r cyfraniad at ddatblygiad y Gymraeg yn y sir a oedd yn adlewyrchu'r ymrwymiad i gefnogi'r dyhead o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn hyn o beth, cyfeiriwyd at Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdod a gymeradwywyd yn y ddiweddar gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a oedd yn nodi sut y byddai'r Cyngor yn datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg yn ei ysgolion yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
Nododd y Cabinet y cais a wnaed gan yr Urdd am gymorth ychwanegol posibl i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei reoli'n llwyddiannus yn sgil y newidiadau a wnaed yn dilyn pandemig coronafeirws. Yn hyn o beth, cafodd goblygiadau staffio'r Awdurdod eu hystyried gan y Cabinet. Cyfeiriwyd at Gytundeb Lefel Gwasanaeth a fyddai'n cael ei lunio rhwng yr Awdurdod a'r Urdd i sicrhau bod y profiad gorau posibl yn cael ei roi i'r plant, y bobl ifanc, a thrigolion y sir yn ystod y cyfnod paratoi 12 mis ac yn ystod wythnos y digwyddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 |
Bod cymorth ariannol yn cael ei roi i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr 2023, gan roi cyfraniad ariannol o £80,000 i Eisteddfod yr Urdd;
|
6.2. |
Rhoi cymorth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn unol â'r gwasanaethau a nodir yn yr adroddiad; |
6.3 |
Penodi'r Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau i arwain y prosiect, gan gyflwyno adroddiadau chwarterol i'r Cabinet. |