CRONFA CODI'R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU - CANOL TREF CAERFYRDDIN
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am fusnes a materion ariannol penodol. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn, yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol ac yn effeithio'n andwyol ar y pwrs cyhoeddus.
Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar wybodaeth mewn perthynas â phrosiect strategol allweddol a fyddai'n defnyddio eiddo segur yng nghanol tref Caerfyrddin unwaith eto.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ar y canlynol:
12.1 cymeradwyo'r bwriad i brynu'r eiddo yng nghanol tref Caerfyrddin a nodwyd yn yr adroddiad ar y telerau y cytunwyd arnynt dros dro.
12.2. adirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Adfywio a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cabinet dros Adfywio ac Adnoddau, i gwblhau'r telerau prynu a chwblhau'r pryniant.
12.3 dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Adfywio a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cabinet dros Adfywio ac Adnoddau, i ddyfarnu cam un y broses adeiladu (Penodi contractwr llwyddiannus a'u tîm dylunio cysylltiedig) a fydd yn cynnwys cynnal yr holl arolygon angenrheidiol, cael adroddiadau ac ymchwiliadau gofynnol a datblygu'r dyluniad cychwynnol i gael caniatâd cynllunio a chymeradwyo rheoliadau adeiladu.