Mater - cyfarfodydd

FIVE YEAR CAPITAL PROGRAMME (COUNCIL FUND) - 2022/23 TO 2026/27

Cyfarfod: 17/01/2022 - Cabinet (eitem 9)

9 RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2022/23 - 2026/27 pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 i 2026/2027, a fyddai'n sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill. Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau o ran ffigurau'r setliad a cheisiadau am grantiau, yn cyfrannu i'r adroddiad terfynol ynghylch cyllideb y Rhaglen Gyfalaf a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Chwefror 2022 a'r Cyngor Sir ym mis Mawrth 2022.

 

Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022/23 oedd £144.844m, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £52.249m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, a'r grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £92.595m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd y ffigurau hynny'n cynnwys prosiectau a ohiriwyd yn 2021/22, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a oedd wedi'u cario drosodd a'u cynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd i ddod.

Rhagwelwyd y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei hariannu'n llawn yn ystod y pum mlynedd. Roedd yn cynnwys gwariant rhagamcanol ar brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe y byddai'r Awdurdod yn benthyca yn eu herbyn, a byddai'r cyllid yn cael ei ddychwelyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros gyfnod o 15 mlynedd (o 2018/19).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad yn rhaglen gyfalaf dros dro at ddibenion ymgynghori, a bod y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ystyried y mater yn ei gyfarfod a gynhelir ar 2 Chwefror, 2022.