5 STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2021-2024 PDF 315 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer y cyfnod 2021-2024. Nodwyd bod y Strategaeth, a fyddai'n disodli strategaeth 2017-20, yn seiliedig ar y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf, roedd yn manylu ar flaenoriaethau a dyheadau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu'r hyn yr oedd angen ei wneud i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddigidol dros y tair blynedd nesaf.
Nodwyd bod y Strategaeth yn rhoi eglurder ynghylch:-
· Y weledigaeth ddigidol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
· Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol
· Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin
· Meysydd Blaenoriaeth allweddol
· Y prosiectau allweddol a'r deilliannau sydd i'w cyflawni
· Yr Adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth ddigidol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021-2024.