7 EFFAITH CREDYD CYNHWYSOL A COVID-19 AR ÔL-DDYLEDION RHENT PDF 641 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar effaith Credyd Cynhwysol a Covid-19 ar ôl-ddyledion rhent Tai Cyngor. Nododd y Bwrdd mai nod yr adroddiad oedd:-
· Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr ôl-ddyledion rhent gan denantiaid y Cyngor;
· amlinellu cynlluniau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i liniaru'r effaith a chefnogi tenantiaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;
· ceisio cymeradwyaeth i gynnal achos llys lle mae pob cam arall i ymgysylltu a chefnogi tenantiaethau wedi methu.
Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai wedi tynnu sylw'r Bwrdd at lefel yr ôl-ddyledion rhent a nodwyd ar dudalen 65 yr adroddiad sef £1.537m ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21, a dywedodd y dylid cywiro'r ffigur a nodi £1.193m, sef cynnydd o £69k o'i gymharu â blwyddyn ariannol 2019/20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 |
Nodi lefel bresennol yr ôl-ddyledion rhent ac effaith Credyd Cynhwysol a COVID-19; |
7.2 |
Nodi'r cymorth sy'n cael ei ddarparu i liniaru effeithiau Credyd Cynhwysol a COVID-19; |
7.3 |
Cadarnhau y bydd y cymorth ariannol yn cael ei ymestyn o £100,000 i £200,000 i helpu tenantiaid sy'n cael anawsterau, lle mae COVID-19 a chaledi ariannol arall wedi effeithio ar eu hincwm; |
7.4 |
Cadarnhau i ailgychwyn camau gorfodi a dechrau cychwyn achos llys lle mae pob dull arall o ymgysylltu a chefnogi tenantiaid wedi methu. |