Mater - cyfarfodydd

MODERNISING EDUCATION PROGRAMME PROPOSAL TO RELOCATE YSGOL HEOL GOFFA TO A NEW SITE AND INCREASE ITS CAPACITY FROM 75 TO 120.

Cyfarfod: 12/05/2021 - Cyngor Sir (eitem 7)

7 RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I ADLEOLI YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120 pdf eicon PDF 517 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar gynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

ar y sail ganlynol:

·         nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;

·         bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ynghylch y cynnig statudol a chafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac roedd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac, ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori;

·         ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol; 

bod y cynigion felly i adleoli Ysgol Heol Goffa a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120, fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael eu rhoi ar waith.

Cyfarfod: 12/04/2021 - Cabinet (eitem 6)

6 RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I ADLEOLI YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120 pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi, yn dilyn ymgynghoriad, y cynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.

Roedd y Bwrdd, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 [gweler cofnod 7], wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol gofynnol. Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 11 Ionawr, 2021 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ac felly nid oedd Adroddiad Gwrthwynebu.

Dywedwyd wrth y Bwrdd bod llythyr i gefnogi'r cynigion wedi dod i law gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa a oedd hefyd yn canmol y Cyngor am ei fuddsoddiad yn yr ysgol newydd a'i ymrwymiad i weithio gydag ysgolion eraill yn y sir i gefnogi dysgwyr a staff.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, ar y sail canlynol: