Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar gynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-
ar y sail ganlynol:
· nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;
· bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ynghylch y cynnig statudol a chafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac roedd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac, ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori;
· ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol;
bod y cynigion felly i adleoli Ysgol Heol Goffa a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120, fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael eu rhoi ar waith.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi, yn dilyn ymgynghoriad, y cynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.
Roedd y Bwrdd, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 [gweler cofnod 7], wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol gofynnol. Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 11 Ionawr, 2021 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ac felly nid oedd Adroddiad Gwrthwynebu.
Dywedwyd wrth y Bwrdd bod llythyr i gefnogi'r cynigion wedi dod i law gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa a oedd hefyd yn canmol y Cyngor am ei fuddsoddiad yn yr ysgol newydd a'i ymrwymiad i weithio gydag ysgolion eraill yn y sir i gefnogi dysgwyr a staff.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, ar y sail canlynol: