Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
(NODER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, bu i'r Cynghorwyr S. Curry, S.J.G. Gilasbey, H.A.L. Evans, P.M Hughes, J. James, D. Thomas a D. Price ailadrodd y datganiadau hynny a gadael y cyfarfod tra rhoddwyd ystyriaeth i'r eitem)
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2021 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2021, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad wedi crynhoi'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2021/24 ac yn adleisio'r cynigion diweddaraf yn y Cynllun Busnes 30 mlynedd, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £64m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid. Dros y 3 blynedd nesaf disgwylid y byddai £56m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £49m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £45m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd (fel Teras Glanmor, Porth Tywyn a Dylan, y Bynea) a'r cynllun prynu'n ôl.
Atgoffwyd y Cyngor, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2021/22 i 2023/24. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2021, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £64m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid. Dros y 3 blynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £56m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £49m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £45m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd (fel Teras Glanmor, Porth Tywyn a Dylan, y Bynea) a'r cynllun prynu'n ôl.
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8