Mater - cyfarfodydd

FIVE YEAR CAPITAL PROGRAMME 2021/22 TO 2025/26

Cyfarfod: 03/03/2021 - Cyngor Sir (eitem 5)

5 RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26 pdf eicon PDF 454 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynahrach, bu i'r Cynghorwyr S.J.G Gilasbey, R. James ac E. Dole ailadrodd y datganiadau hynny;

2.     Eglurodd y Cynghorydd A.D.T. Speake, mewn ymateb i ddatganiad a wnaed yn ystod y cyfarfod iddo gael ei daflu allan o Gr?p Plaid Cymru, nad dyna oedd y sefyllfa, a'i fod wedi gadael o'i wirfodd)

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 i 2025/26 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriadau a gyflawnwyd a setliad Llywodraeth Cymru. Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, a oedd yn rhagweld gwariant o bron i £258m dros y pum mlynedd 2021/22 i 2025/26, yn manteisio ar y cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid posibl sydd ar gael o ffynonellau allanol. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer ein trigolion.

 

Roedd y rhaglen gyfalaf dros dro fanwl wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar 3 Chwefror er mwyn ymgynghori yn ei chylch, ac ni chodwyd unrhyw bryderon yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw. Roedd dyfyniad o'r cofnod perthnasol o'r cyfarfod wedi'i gynnwys yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

Dywedodd fod tua £122.5m o gyllid gan y Cyngor Sir ar gael ar gyfer y rhaglen a'i fod yn cynnwys benthyca; gyda chymorth a heb gymorth, derbyniadau cyfalaf, cronfeydd wrth gefn a chyllid refeniw uniongyrchol, gyda £135m arall yn cael ei ragweld gan gyrff cyllid grant allanol. Er i'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 ddod i law ar 2 Mawrth 2021, nid oedd unrhyw gyllid cyfalaf cyffredinol ychwanegol wedi'i ddyfarnu i'r hyn a nodwyd yn y setliad dros dro - y manylir arno yn y prif adroddiad. Yn ogystal, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagamcanion o ran y cyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2021/22, ac felly roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig wedi'i seilio ar fenthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2021/22. 

 

Soniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau am gapasiti cyllid ychwanegol a oedd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd, sef cyfanswm o £4m rhwng blynyddoedd 4 a 5 y rhaglen, a fyddai'n para heb ei ddyrannu am y tro ac yn cael ei ddefnyddio fel costau eraill a ffynonellau cyllid wedi'u crisialu wrth i amser fynd rhagddo.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod llawer o'r buddsoddiadau yn yr adroddiad yn gyfarwydd, gan gynnwys y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, roedd wedi bod yn bosibl ychwanegu buddsoddiad at gynlluniau a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig i'r sir er mwyn ymateb i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 22/02/2021 - Cabinet (eitem 7)

7 RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26 pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 hyd at 2025/2026. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £258m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf dros gyfnod o bum mlynedd, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £122.5m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn, a'r grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £135m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd swm o £4m rhwng blynyddoedd 4 a 5 heb ei ddyrannu am y tro, a byddai'n cael ei ddefnyddio wrth i gostau a chyllid arall gael eu crisialu wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Atodiad A i'r adroddiad yn manylu ar y rhaglen lawn, a ariannwyd yn llawn am y pum mlynedd, ac yn darparu potensial ar gyfer buddsoddiad pellach ym mlynyddoedd 4 a phump o ystyried y cronfeydd o £4m a oedd heb eu dyrannu eto ar gyfer y blynyddoedd hynny

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod llawer o'r buddsoddiadau yn yr adroddiad yn gyfarwydd, gan gynnwys y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, roedd wedi bod yn bosibl ychwanegu buddsoddiad at gynlluniau a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig i'r sir er mwyn ymateb i'r pandemig Covid-19. Roedd y rhain yn cynnwys:-

 

·       Adfywio Economaidd – Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (£1.2m); Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol (£1m); Cronfa Mentrau Gwledig (£500k) ac £1m ar gyfer cynllun twf y 'Deg Tref', a oedd yn galluogi'r awdurdod i ddenu buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat i'r sir. Yn ogystal, byddai'r £500k a gymeradwywyd yn 2020/21 ar gyfer datgarboneiddio ystâd y Cyngor yn cael ei ddefnyddio bellach ar gyfer Grantiau Menter Ynni Adnewyddadwy i fusnesau i weithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad preifat yn yr ardal honno a lleihau ôl troed carbon y sir;

·       Seilwaith – Cronfa Dd?r Trebeddrod (£1m), llwybr arfordir Morfa Bacas (£300k); gosod goleuadau cyhoeddus newydd yn lle'r hen rai (£400k y flwyddyn o 2024/25) ac ymrwymiad o £300k i fuddsoddi mewn ffermydd sy'n eiddo i'r Cyngor ar gyfer 2024/24;

·       Gwasanaethau Cymunedol – ymrwymiad parhaus i gefnogi buddsoddiad mewn diwylliant yn Oriel Myrddin a chefnogaeth barhaus i dai sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl;

·       Adran yr Amgylchedd - parhau i gefnogi Gwelliannau Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd i mewn i 2025/26. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2021/22 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ;

·       Ystâd y Cyngor – cyllid ychwanegol i waith hanfodol i Neuadd y Sir (£500k) a gwaith iechyd a diogelwch i D? Elwyn (£700k)

·       Yn ogystal â'r pecyn adfer yn 2021/22, cefnogwyd y gyllideb Adfywio gan fuddsoddiad ychwanegol pellach yng Nghronfa Prosiect y Strategaeth Trawsnewid yn 2025/26,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7